³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia 'Nglynebwy - Gwener

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Blogiwr Gwadd | 11:11, Dydd Sadwrn, 7 Awst 2010

Mae Nia Lloyd Jones Radio Cymru wedi bod yn hel clecs cefn llwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent gydol yr wythnos. Dyma ei chyfraniad diweddaraf - a'r wythbnos yn tynnu at ei therfyn:

Newid trefn heddiw hefyd. Mi fues i yn y stiwdio hefo Rhiannon Lewis drwy'r bore ac yna yn crwydro'r maes hefo dwy ffrind coleg drwy'r pnawn, cyn mynd nol gefn llwyfan ar gyfer cystadlaethau'r nos.

Mae hi bob amser yn braf gweld Dafydd Jones Ystrad Meurig - neu Coblyn - i'r rhai ohonoch sydd yn gwylio Pentre Bach ar y teledu.

Dfaydd Jones

Mae o'n gystadleuydd ffyddlon iawn mewn eisteddfodau bach a mawr. Roedd o'n cystadlu yng Nghystadleuaeth Goffa Lady Herbert Lewis heno (alaw werin) ac yntau wedi cael trydydd yma bedair gwaith yn y gorffennol penderfynodd hepgor yr ail safle a mynd yn syth am y cyntaf.

Cwpan arall felly i'w rhoi yn y cwpwrdd gwydr.

Dw i wedi sôn yn barod yr wythnos hon am aelodau o'r un teulu yn perthyn i fandiau pres ac ati ac fe gawson ni rywbeth tebyg gyda Chôr Rhydfelen.

Roedd Huw Blainey ar y llwyfan unwaith eto heno. Roedd o yno nos Wener diwethaf fel aelod o'r côr ifanc cyffrous Only Boys Aloud, ac wedi mwynhau'r profiad hwnnw yn arw. Ond heno roedd Huw yn sefyll wrth ochr ei dad - Gareth, a'i fam - Delyth ym mhen arall y côr.

Yn ogystal a chystadleuwyr, mae 'na gefnogwyr di-ri yn dod i gefn y llwyfan hefyd - i roi gair o gyngor ac ati, ond tawedog iawn oedd Aaron Hywel heno.

A dweud y gwir, roedd o'n cysgu ac mae 'na reswm da iawn pam. Chwe mis oed ydi Aaron a dyma ei steddfod gyntaf.

Aaron a'i fam

Roedd o yno i gefnogi ei dad a'i fam sef Eilir a Leah, a Chôr CF1. Eilir sydd yn arwain, ac fe gafodd y côr y wobr gyntaf heno yng nghystadleuaeth y Côr Cymysg. Mae'n amlwg bod Aaron wedi deall hynny, oherwydd mi ddeffrodd mewn pryd i ymuno yn y dathlu, er dwi'n amau mai eisiau cwtsh gan Mam oedd o!

Roedd 'na gôr newydd sbon ar y llwyfan heno, yn gôr lleol - sef Côr Bro Islwyn - yn cystadlu yng nghystadleuaeth y corau cerdd dant.

Un o'r hyfforddwyr ydi Rhodri Harries. Mae Rhodri wedi bod yn weithgar iawn yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod hon, gan bwyllgora, sgriptio sioe Feithrin, cyfeilio yn yr Oedfa, ac fel aelod o Gôr yr Eisteddfod, Parti'r Efail a'r côr newydd.

Ac roedd hi'n amlwg bod Côr Bro Islwyn wedi mwynhau'r profiad o gystadlu, felly byw mewn gobaith rwan y byddan nhw'n cario mlaen.

Dyna hanes Côr Merched Y Bala a'r Cylch - dan arweiniad Nia Morgan. Mi wnaethon nhw ffurfio ar gyfer steddfod Y Bala y llynedd, a dyma nhw nôl ar y llwyfan eto eleni yng nghystadleuaeth y cor alaw werin.

Efo Delyth Medi

Côr Merched Canna enillodd y gystadleuaeth honno (a'r Côr Merched ddoe) - dan arweiniad Delyth Medi. Tro diwethaf roedd y steddfod yn yr ardal yng Nghwm Rhymni 1990, fe enillodd Delyth ei hun ddwy wobr gyntaf, felly mae'n amlwg bod yr ardal hon yn dod a dipyn o lwyddiant iddi.

Braf oedd gweld prifardd coronog yr Eisteddfod hon nol ar y llwyfan heno.

Ond tro 'ma, roedd hi wedi diosg y goron. Roedd Glenys Mair Glyn Roberts yn canu hefo côr cerdd dant Merched y Garth. O'n i'n mynd i ddeud bod hyn yn goron ar wythnos arbennig iawn iddi....

O diar, mae hi wedi bod yn wythnos hir!!

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.