Galw am gymorth
Mewn beth rydw i'n i alw yn 'gwt metal' yr ydw i'n byw yr wythnos hon a hynny o fewn ffiniau'r ³ÉÈË¿ìÊÖ ar y Maes ei hun. Yr ydw i'n llythrennol yn byw, bwyta a chysgu Eisteddfod ac yn teimlo gymaint rhan o'r lle a phe byddwn wedi cael fy mheintio'n binc.
Byncar moethus fyddwn i'n galw'r cwt pe byddwn i'n trio'i werthu a mwriad i oed eich syrffedu'n ystod yr wythnos gyda disgrifiadau o amgylchiadau byw dan drefn o'r fath.
Yna, dyma fi'n ymweld â phabell Cymorth Cristnogol ar y maes a gweld sut mae teulu o bump yn byw mewn lle llawer iawn mwy cyfyng yn Nairobi, Kenya - dim ond arwynebedd o naw troedfedd efo chwech sydd ganddyn nhw i fyw a bod ynddynt heb na dŵr glan na charffosaeth. Dyna gartref Jeremiah 12 oed.
Erbyn hyn daeth argyfwng arall sydynach ei ymosodiad i darfu ar Eisteddfod mudiadau fel Cymorth Cristnogol - y llifogydd ym Mhacistan.
Ac am y tro cyntaf erioed yn hanes yr Eisteddfod cyhoeddodd DEC Cymru apêl arbennig Llifogydd Pacistan ym mhabell Cymorth Cristnogol.
"Mae aelodau'r DEC yng Nghymru eisoes yn ymateb i'r argyfwng er bod rhwystrau ac amodau anodd sy'n eu hwynebu. Ond mae dirfawr angen cefnogaeth y cyhoedd er mwyn i ni allu parhau i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl gyda hanfodion fel dŵr glan, meddyginiaeth, lloches dros dro a bwyd," meddai Jeff Williams, Cadeirydd DEC - Disasters and Emergency Committee - Cymru.
"Rydym yn ffyddiog y bydd pobol Cymru yn barod i gyfrannu arian a gall y rhai sy'n ymweld â'r Eisteddfod gyfrannu drwy ymweld â stondinau rhai o aelodau DEC Cymru ar y maes sy'n cynnwys Cymorth Cristnogol, Achub y Plant, Oxfam Cymru, Tearfund, Y Groes Goch Brydeinig a Cafod."
Bydd galwad ar y teledu a'r radio yfory, Iau, i gyfrannu trwy wefan y neu dros y ffôn ac o ddydd Iau ymlaen gellir defnyddio SMS, drwy'r post neu mewn unrhyw Swyddfa Bost neu fanciau'r Stryd Fawr.
Rhif ffôn cyfrannu yw 0370 60 60 900
A dyna sy'n cyfrif pam na fyddwch yn clywed rhagor amdanaf i yn methu dod o hyd i bar o sanau glân mewn cwt metel digon cysurus efo dŵr poeth cawod a thŷ bach ar faes steddfod..