³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geirda - ambell ddyfyniad

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:55, Dydd Gwener, 2 Gorffennaf 2010

Dillad nyrsus, wynebu'r deg ar hugain, profiad merch enwogion a bygwth plant anystywallt ar fysus ysgol - ail flasu'r wythnos trwy gofio rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf.

A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr â'r .

  • Dillad newydd nyrsus yn achosi cosi - Pennawd yn 'Golwg'.
  • Mae llawer o bobl yn dewis defnyddio'r llwch i wneud diamwnt ond dydw i ddim yn moyn gwneud hynny rhag ofn imi ei golli. Fe ddewisais i roi'r llwch yn yr inc a'i ddefnyddio i roi Lloyd yn ôl lle dechreuodd y cyfan, yn ôl yn fy nghorff - Kim Mordue o Lanelli y bydd ei gŵr, Dave, yn defnyddio inc gyda llwch eu diweddar fab, Lloyd, ynddo i greu llun tatŵ i'w gofio ar ei chorff.
  • Dydw i ddim yn teimlo'n nerfus ynglÅ·n a throi'r 30 rydw i'n wir gyffrous ac yn teimlo mod i mewn lle hapus - Katherine Jenkins yn edrych ymlaen at ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed.
  • Yr ydw i'n ei gadael cyn hired a phosibl cyn crybwyll fy rhieni. Yr unig beth fyddai'n ei ddweud yw eu bod yn gerddorion ond pan fo pobl yn darganfod pwy yn union ydyn nhw mae rhai yn mynd 'O, reit' a dydy nhw ddim yn siŵr beth i'w ddweud. Mae fel pe byddech chi wedi dweud ei bod yn dod o Mars neu rywbeth - Jessica Lee Morgan, merch Mary Hopkin a Tony Visconti sydd hefyd a'i bryd ar greu gyrfa gerddorol iddi ei hun.
  • Gobeithiwn na fyddwn yn gorfod egluro ac ymddiheuro i genedlaethau'r dyfodol pam fod creithiau lle bu cymunedau ar draws ein gwlad - Elin Haf Davies, y Gymraes gyntaf i rwyfo ar draws Môr Iwerydd, a chyn ddisgybl a fu'n dadlau achos Ysgol Y Parc ger Y Bala yn 'Golwg' a'r 'Cymro'.


  • Os nad ydyn nhw'n bihafio rydw i'n ei throi i ffwrdd neu ei rhoi ar Radio 2 - gyrrwr bws ysgol yn egluro sut mae'n defnyddio'r radio i 'gosbi' plant anystywallt .
  • Dwi lecio gweld hen bobol efo gwên ar eu gwyneb am eu bod wedi cyflawni rhywbeth. Rydw i eisiau cael byw i fod yn un ohonyn nhw - Russell Jones
  • Mae trychinebau yn dod â chymunedau at ei gilydd ac mae hynny wedi bod yn wir erioed yn y pentref a'r cwm yma. Gadewch inni obeithio y bydd y gymuned glos hon yn obaith i'r ardal ac i'r wlad wrth i ni geisio dyfodol economaidd a diwydiannol teg a chynaliadwy - Rowan Williams, Archesgob Caergaint, yn ystod seremoni dadorchuddio cerflun i nodi hanner canmlwyddiant trychineb pwll glo Six Bells lle lladdwyd 45 o ddynion mewn ffrwydrad dan ddaear.
  • Fe fyddwn i wrth fy modd ei weld yn ôl yn Seland Newydd - Sean Fitzpatrick am Warren Gatland.
  • Fe fyddai'n dda gen i pe byddwn wedi tynnu fy nghap sgrymio ar gyfer hynny - Michael Owen yn cofio codi tlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005. Mae'n awr yn ymddeol oherwydd trafferthion gyda'i ben glin.

  • Yr un yw gwirioneddau sylfaenol Cristnogaeth o oes i oes ond mae angen i bob cenhedlaeth o gredinwyr addasu eu cyflwyniad a'u gweithrediad ohoni'n barhaus - Golygyddol 'Y Tyst' gan Alun Tudur.
  • Clywais y fwfwsela'n cael ei ddisgrifio fel 'corn traddodiadol Affrica' ond mae'n anodd gen i gredu hynny am mai o blastig y gwnaed pob un y gwelais i - Arthur Tomos yn 'Y Cymro'..
  • Weithiau mewn bywyd mae'n rhaid ichi bwshio'ch hun - Sian Lloyd yn wynebu bod yn noeth ar lwyfan fel rhan o daith Calendar Girls.

  • Mae'n un mewn cant o gantor - lleisiwr siŵr
    Dansierus ei hiwmor.
    A fu yn unman gan gôr
    Well dwy dunnell o denor?
    Emyr Llywelyn yn dyfynnu englyn y diweddar Dic Jones i Garmon Davies ar 'Wedi Saith' S4C.

  • ³ÉÈË¿ìÊÖ iD

    Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

    ³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.