Dyddiadur Nia - dydd Gwener
- Yn cyfarfod pobl gefn llwyfan i ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru mae Nia Lloyd Jones. Yn ystod yr wythnos bu'n rhannu ei phrofiadau ar blog 'Cylchgrawn'.
Un o'r cystadlaethau cyntaf ar y llwyfan bore 'ma oedd yr unawd telyn, ac enw cyfarwydd ddaeth i'r brig eleni - Glain Dafydd o Ysgol Uwchradd Tryfan.
Mae hi'n lwcus iawn gan fod ei thad yn gyfansoddwr, Einion Dafydd, a fo oedd wedi cyfansoddi un o'r darnau yr oedd hi yn ei berfformio heddiw!
Mae hi'n gobeithio mynd i astudio'r delyn ym Mharis yn yr Hydref. Mae hi hefyd yn nofwraig o fri!
Wythnos brysur
Mae Ysgol Dyffryn Teifi wedi cael wythnos brysur a llwyddiannus iawn a heddiw fe ges i air â rhai o'r grŵp llefaru a darganfod un o feirniad y dyfodol, synnwn i ddim, yn Hanna.
Wrth iddi hi wrando ar y grwpiau llefaru - fe gawson ni sylwadau fel "O nhw'n gwd" a "Mae nhw'n debyg iawn i ni"!
Gŵr bonheddig ydi Huw Ynyr Evans o Aelwyd Coleg Meirion-Dwyfor. Mi ges i air hefo fo ar ôl yr Unawd Cerdd Dant dan 19 oed a chlywed ei fod yng nghanol ei arholiadau lefel A, a'i fryd ar fynd i'r Brifysgol ym Mangor.
Hogyn call - mi fydd o ddigon agos i gael picio adra am ginio Sul a golchi ei ddillad!
Teuluol
Fe gawsom ni sefyllfa deuluol ddiddorol yng nghystadleuaeth yr ymgom dan 19 oed. Roedd Sara, Luned, Ffion a Nia ar y llwyfan yn cynrychioli Ysgol Gyfun y Preseli, a'u hyfforddwr nhw oedd Sharlaine Quick.
Yn yr un gystadleuaeth roedd Ysgol Rhydywaun, a Llinos a Jack o Ysgol Gyfun Ystalyfera, ac mae Jack yn frawd i Sharlaine - hyfforddwr Preseli!!
Cythraul cystadlu?
Dim o gwbl - roedd y ddau ohonyn nhw'n llawenhau eu bod ar y llwyfan gyda Rhydywaun yn gyntaf, Preseli yn ail ac Ystalyfera yn drydydd.
Urdd Factor
Pan welais i Jay Worley ar y llwyfan ar y llefaru unigol dan 19 oedd roeddwn i'n gwybod imi ei weld o'r blaen yn rhywle.
Roedd o'n gystadleuydd ar y rhaglen X Factor ac fe lwyddodd i fod yn un o'r 42 cystadleuydd olaf. Ond roedd o'n cyfadddef heddiw ei bod yn llawer gwell ganddo'r Urdd Factor!
Yr ieuengaf
Un o'r rhai ieuengaf ar y Maes heddiw oedd Alffi George Hughes - 22 diwrnod oed, mab Eleri Sion a'i phartner - Dave, a do mi ges i gyfle i sticio'r meic o dan ei drwyn bach smwt.
Yn anffodus roedd o'n crio ar y pryd ond 'swn i'n deud bod 'na ddeunydd perfformiwr bach da yma ar gyfer y dyfodol.
Dylanwad Tad-cu
Pleser mawr oedd cael sgwrs unwaith eto eleni hefo Osian Dafydd o Ysgol Gyfun Gŵyr. Osian enillodd yr Unawd Llinynnol dan 19 oed.
Mae o'n chwarae'r ffidil ers yn dair oed a hynny oherwydd dylanwad ei dad-cu.
Yn wahanol i nifer, does ganddo ddim bwriad i fyd ar drywydd gyrfa gerddorol, gan ei fod a'i fryd ar fod yn beiriannydd.
Ac i gloi, diolch i Marlyn Lewis - Aelwyd Maenclochog - am y sosej rôls gefn llwyfan heddiw. Jyst y peth i 'nghadw ar fynd am weddill y prynhawn.