Pint a seibiant
Difyr gweld mai drama gan awdur sydd yr un mor enwog am y bylchau yn ei ddialog ag yw am y geiriau sydd ynddi yw cynhyrchiad nesaf Theatr Genedlaethol Cymru.
Byddai rhai yn dadlau i Harold Pinter wneud y saib ddramatig yn gelfyddyd ynddi ei hun ac fe all cynulleidfaoedd Y Gofalwr ddisgwyl digon ohonyn nhw.
Ond os am weld y saib yn ei holl ogoniant maen nhw'n dweud i mi mai yn The ³ÉÈË¿ìÊÖcoming mae'r awdur ar ei orau.
Yn honno maen na 240 o seibiau arwyddocaol - pwy bynnag fu'n cyfrif!
Ar ei wely angau hyd yn oed nid Pinter oedd yn brin o arddel y grefft a berffeithiodd dros y blynyddoedd.
Yn sgil cyhoeddi dyddiaduron gweddw Pinter - yr Arglwyddes Antonia Fraser, yr hanesydd a merch yr Arglwydd Longford sy'n cael ei hadnabod fel Lady Magnesia Freelove gan ddarllenwyr Private Eye - yr oedd stori yn y papur y dydd o'r blaen am sgwrs olaf y ddau gyda'i gilydd.
Nadolig 2008 oedd hi yn ôl y dyddiaduron ac yntau wedi ei ruthro i'r ysbyty a'r ddau yn gwybod bod y diwedd yn agos ac yntau'n gofyn iddi hi:
"Beth ydi dy gynlluniau . . . [saib] . . . yn gyffredinol."
Yn driw i'r diwedd i'r arddull a fathwyd gan rywun yn Pinteresg.
Cychwyn ansicr
Ond o gofio iddo gyrraedd rheng uchaf ei broffesiwn yn ddramodydd dechrau digon ansicr a gafodd Pinter gyda'i ddrama gyntaf i'w pherfformio, The Birthday Party, yn 'cau' wedi wythnos yn unig yn 1958.Ond er ymateb claear trwch y beirniaid fe welodd un, Harold Hobson, ddyfodol i'r dramodydd ifanc.
"Yr ydw i'n fodlon mentro hynny o enw da sydd gen i fel beirniaid i ddweud, ar sail y gwaith hwn, fod Mr Pinter yn meddu ar y dalent fwyaf gwreiddiol, anghyfforddus a gafaelgar ym myd theatr Llundain," meddai.
Saib yn awr, tra'n disgwyl i weld beth fydd ymateb cynulleidfaoedd Cymru 2010 i Y Gofalwr ac i weld beth fydd Cefin Roberts, y cyfarwyddwr, yn ei wneud o'r holl seibiau yna.
.......
.......
.......
.......
Ym - Hwyl.