Brwydr Sylw-Barn - bwrw'r goelbren gyntaf
Saith i un o blaid Barn oedd hi yn y gystadleuaeth â Sylw ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen.
Gwahoddwyd wyth i'r stiwdio i bwyso a mesur y ddau gylchgrawn fydd yn cystadlu am grant cylchgrawn materion cyfoes y Cyngor Llyfrau Cymraeg.
Grant sydd ar hyn o bryd yn mynd i Barn.
Bydd panel grantiau'r Cyngor yn dod i benderfyniad fis Tachwedd a fydd Barn yn cadw'r nawdd ynteu a fydd yn mynd i'r cylchgrawn newydd Sylw y cyhoeddwyd rhifyn enghreifftiol ohopno gan Y Lolfa ar gyfer Eisteddfod Y Bala.
Daw y panel grantiau i benderfyniad wedi cymharu hwnnw â rhifyn o Barn ac yn dilyn ymateb grwpiau ffocws a drefnir gan gwmni ymgynghoriaeth annibynnol Wavehill a fydd hefyd yn holi arbenigwyr ac unigolion.
Ond mae coelbren panelwyr Wythnos Gwilym Owen eisoes wedi ei thaflu.
Yn gynta fe fuo nhw'n trafod tegwch - neu annhegwch - y ffordd o bennu'r grant a dyma oedd ganddyn nhw i'w ddweud:
Meg Elis - llenor:
Ddim yn broses ddelfrydol ond byddai unrhyw broses yn cael ei phledu gan rywun.
Hywel Davies, newyddiadurwr:
O leiaf dan y dull gellir gweld dau gylchgrawn i'w cymharu.
Catrin Evans, cynhyrchydd teledu:
Yn broses y gallech godi cwestiynau ynglyn â hi oherwydd i Sylw gael yr holl amser i lunio un rhifyn. Byddai wedi bod yn well cymharu dau rifyn perthnasol ar gyfer yr un mis.
Catrin Fflur Hughes, darlithydd yn y gyfraith:
Manteision ac anfanteision i'r dull ond y maes chware heb fod yn lefel o safbwynt cymharu.
Gwyn Griffiths , colofnydd ac adolygydd:
Mewn gwlad lle mae llenyddiaeth a gwasg i bob pwrpas wedi eu gwladoli dywedodd y byddai'n anodd meddwl am unrhyw ffordd arall ond gwelai Sylw yn ffodus o fod wedi cael £5,000 i baratoi rhifyn lle gellidyn disgwyl iddynt wneud y peth am ddim a chynnal cylchgrawn heb grant am rai blynyddoedd fel ag yn hanes Barn na chafodd grant am rai blynyddoedd yn y Chwedegau. Y drefn heb fod yn deg â'r naill na'r llall.
Hafina Clwyd, newyddiadurwraig:Yn ymddangos yn system greulon dros ben ond yn cyfaddef na allai feddwl am ffordd arall well.
Adrian Morgan, myfyriwr ymchwil:
Ddim yn ddull delfrydol o bell ffordd. Wedi hoffi gweld rhedeg Sylw am ychydig o fisoedd er mwyn gweld amrywiaeth o rufynnau.
David Meredith, swyddog cysylltiadau cyhoeddus:
Gan y Cyngor mae'r arian a chanddyn nhw mae'r grym.
Pan ddaeth hi'n bleidlais o blaid y naill neu'r llall fel hyn yr aeth hi:
Meg Elis
Barn o drwch blewyn
Hywel Davies
Sylw ond pe byddai Barn yn cael ei ddewis fe fyddai ef yn tanysgrifio iddo am y tro cyntaf erioed
Catrin Evans
Barn oherwydd yn rhoi fforwm i bethau yng Nghymru lle nad oes na fforwm ar hyn o bryd. Ond mae angen cic yn y pen ôl
Catrin Fflur Huws
Barn oherwydd yn fwy ysgolheigaidd a meddylgar ond yn cytuno y gallai Sylw fod yn gic ym mhen ôl Barn trwy ddenu cynulleidfa ieuengach. Barn â gwersi i'w dysgu.
Gwyn Griffiths
Barn yn bendant oherwydd sgrifennu eithaf gwael yn Sylw - does dim sgwennu da ynddo fe.
Hafina Clwyd
Aros yn ffyddlon i Barn. Nid am fod y llall yn wael ond oherwydd bod cymaint o golofnau na allai eu darllen oherwydd y diwyg.
Adrian Morgan
Barn oherwydd bod yr ysgrifennu lawer yn well er bod Sylw yn rhoi llwyfan i leisau newydd ond Barn angen dylunydd newydd achos er bod y sgrifennu yn wych mae'n edrych yn ddiflas.
David Meredith
Wyth a hanner i Barn a saith a thrichwarter i Sylw a galw ar y Cyngor Llyfrau i beidio â rhannu'r genedl a rhoi digon o arian i gynnal y ddau.
Drosodd at y grwpiau ffocws ac at y panel grantiau yn awr a fydd yn gorfod penderfynu a fydd cynhaliaeth bywyd Barn yn cael ei dwyn oddi arno ar yr union adeg y mae'r cylchgrawn yn cychwyn cyfnod gyda golygyddion newydd nad ydynt wedi cael amser i brofi eu hunain hyd yn hyn.
Yn y pen draw bydd yn rhaid i'r Cyngor Llyfrau benderfynu a yw Sylw yn rhagori cymaint ar Barn ag i gyfiawnhau rhoi'r arian i'r Lolfa ac o bosib ladd Barn er mwyn i Sylw gael byw.
Dyw'r rhifyn enghreifftiol ddim yn awgrymu bod hynny'n digwydd - ond tybed beth feddyliwch chi . . .
Bydd yn bwnc trafod difyr ar faes y Steddfod.