Gwahaniaeth rhwng dau le
³ÉÈË¿ìÊÖ Canwr y Byd Caerdydd - bore Iau
Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.
Gyda thri o'r cantorion sy'n gwybod eu bod eisoes yn rownd derfynol y Datganiad yn cystadlu roedd neithiwr, noson olaf ond un prif gystadleuaeth ³ÉÈË¿ìÊÖ Canwr y Byd Caerdydd 2009, yn sicr o fod yn un dda.
Jan Martinik, y baswr 26 oed o'r Weriniaeth Siec, ddyfarnwyd yn enillydd y noson a rwy'n amau a fyddai neb yn anghytuno. Mae e eisoes yn rownd derfynol y Datganiad.
Dyma lais bendigedig, llyfn, disgybledig, lan a lawr ble mynnoch chi. Cyfareddol! Pleser pur oedd gwrando arno. Dyma glamp o ddawn a phersonoliaeth hoffus ac y mae dyfodol disglaer o'i flaen.
Verdi, Gounod, Puccini, Rakhmaninov - roedd ef a'r gerddorfa fel un, y gerddorfa oedd yn cyfeilio iddo ef nid ef yn ei dilyn hi.
Hon hefyd oedd noson y Gymraes, y soprano Natalya Romaniw. Er yn ifanc - 22 oed - cawsom berfformiad hyfryd ganddi. Mae ganddi'r llais llwysol a'r cymeriad i sicrhau dyfodol llwyddiannus. Weithiau roedd ei llais yn swnio'n ifanc ond mae ei thechneg yn ddiogel.
Dewisodd ganeuon oedd yn rhoi cyfle iddi ddangos ei doniau ei hun yn hytrach na bwrw iddi i blesio'r cynulleidfa. Nid y byddai hynny'n anodd gyda thyrfa frwdfrydig o Dreforys a chriw o'i chyd-fyfyrwyr o'r Guildhall wedi dod i'w chefnogi!
Canodd arias o Idomeneo gan Mozart, o Manon gan Massenet ac o Roméo et Juliette gan Gounod. Yn anffodus iddi, canwyd y ddwy alaw olaf gan eraill ynghynt yn yr wythnos - a'u canu'n well. Fel yna mae'n digwydd.
Yr un arall o'r triawd a fydd yng nghystadleuaeth y Datganiad nos Wener oedd y bariton Javier Arrey o Chile. Fel eraill yr un noson nid oedd yn fwriad ganddo fynd ati i blesio'r gynulleidfa gyda darnau poblogaidd, cyfarwydd ond, yn hytrach, canai yr hyn oedd yn arddangos ei gryfderau.
Canodd yr aria O Carlo, ascolta ... lo morro o Don Carlo gan Verdi. Cawsom berfformiad caboledig iawn. Mae ganddo wyneb a hyd yn oed aeliau actor ac y mae'n edrych fel Sbaenwr.
Er rwy'n dechrau blino o weld cantorion yn cychwyn canu cân 'barablu' Fiagro allan o Il barbiere di Siviglia Rossini oddi ar y llwyfan.
Ni chafodd Katharine Tier, y mezzo-soprano o Awstralia lawer o lwyddiant mor belled - er mae'n bosib mewn egwyddor iddi gyrraedd y rownd derfynol. Mae'n swnio fel mezzo dda, llais llyfn, aeddfed - dawn orffenedig yn wir.
Mae ganddi lais o ansawdd rhyngwladol. Canodd Dopo notto o Ariodante gan Handel, aria a ganwyd yn ardderchog gan yr uwchdenor Yuri Mynenko, enillydd gwobr nos Fawrth.
Y gantores arall neithiwr oedd Vira Slywotzky, y soprano o'r Unol Daleithau. Edrychwn ymlaen i'w chlywed wedi gweld ei pherfformiadau dramatig yn y gystadleuaeth arall.
Fedra i ddim honni fy mod yn hoffi ei llais, 'dyw e ddim yn swynol ac y mae Crudele! - Non mi dir allan o Don Giovanni gan Mozart yn gân mor swynol.
Roedd aria o waith Debussy allan o L'enfant prodigue yn gweddu'n well iddi, a pha un a fedrwch Ffrangeg neu beidio roedd pob gair yn glir. Gorffennodd gyda Do not utter a word allan o Vanessa gan yr Americanwr Samuel Barber.
Mae rhywun yn cael ei demtio i ddweud mai un anghenion sylfaenol canwr yw llais dymunol i wrando arno ond fel mewn tîm rygbi neu dîm pêl-droed Americanaidd, am wn i, mae yna le i ddoniau o bob math a phob maint. Mae'n amlwg yn mwynhau gyrfa lwyddiannus yn barod er bod rhywun yn cael ei demtio i awgrymu ei bod yn perthyn yn nes i'r traddodiad can belto na bel canto.
Gwell yn y Neuadd
Un peth a'm trawodd wedi pum diwrnod o wrando ar gantorion yn y Theatr Nerwydd ac yn Neuadd Dewi Sant, gymaint gwell mae pawb yn swnio yn y neuadd.
Nid mater o ragfarn yw hyn am fod mwy o le i'm coesau hirion yn seddau Neuadd Dewi Sant ond roedd ansawdd lleisiau'r cantorion yn swnio'n well yno. A dywedodd Helen Kearns o Iwerddon wrthyf fod yn well ganddi ganu i gyfeiliant cerddorfa na phiano.
Dros wydraid o win holais Beverley Humphreys, y gantores a chyflwynwraig radio gyda Radio Wales, am hyn a dwedodd bod y Theatr Newydd yn lle anodd i ganu.
"A ddylai'r trefnwyr ystyried cynnal rowndiau rhagbrawf yn rhywle arall - fel Neuadd Hoddinott yng Nghanolfan y Mileniwm?" holais.
"Byddai hynny'n ardderchog a byddai'n wych cael pob sedd wedi eu llenwi yn y prynhawniau," atebodd. "Awn i blannu hadau'r syniad."
- Gwefan Canwr y Byd Caerdydd 2009
Ydych chi wedi bod yn dilyn y gystadleuaeth? Pwy ydych chi'n feddwl fydd fuddugol?