Gwobr y Gân - y noson gyntaf
Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.
Nos Sadwrn - rygbi a chyfeillgarwch
Cafwyd tywydd crasboeth yn ystod wythnos gyntaf erioed Cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd ym 1983.
Cychwynnodd cystadleuaeth 2009 gyda storm o law taranau!
A minnau'n cysgodi ym mar y Theatr Newydd, mewn dim o dro yr oeddwn yn trafod taith rygbi'r Llewod yn Ne Affrica gyda dynes hawddgar o Johannesburg a gyflwynwyd i mi fel Jean.
Darganfûm yn fuan mai Mrs Kimberg oedd hi, mam Dawid, y bariton sy'n cynrychioli De Affrica yn y gystadleuaeth.
Ymhen dim gwyddwn fod cariad Dawid yn Gymraes a bod Jean yn lletya gyda mam-gu'r cariad ac iddi ymweld â Sain Ffagan a'r Senedd a'i bod yn cael amser gwych a bod nifer o'r cystadleuwyr yn adnabod ei gilydd cyn cyrraedd Caerdydd, a bod yr awyrgylch yn gyfeillgar a hyfryd ...
Wythnos fel yna yw un ³ÉÈË¿ìÊÖ Canwr y Byd Caerdydd.
Rownd gyntaf cystadleuaeth am y Wobr Datganiad oedd hi nos Sadwrn a chynrychiolydd Lloegr, Anna Stephany, mezzo 31 oed, roes gychwyn anrhydeddus i'r wythnos. Mae gan Loegr record arbennig yn y gystadleuaeth hon, wedi ei hennill y ddau dro diwethaf - 2005 a 2007 - ac yn ôl ym 1997.
Mae Anna mewn olyniaeth deilwng. Mae ganddi lais cyfoethog, mae'n gerddor gyda'r gorau a chawsom berfformiad cynnil, cynnes a di-lol ganddi. Efallai mai hon yw ei chystadleuaeth hi. Cynigiodd amrywiaeth o gerddoriaeth - Schubert, y ddau gyfansoddwr Seisnig Pelham Humfrey a Thomas Dunhill, y Ffrancwr Hahn, a'r Awstriad Hugo Wolf.
Dawid Kimberg, y baritôn 28 oed o Dde Affrica y bûm yn trafod rygbi gyda'i fam ddaeth wedyn - pedair cân gan Hugo Wolf, un gan y Sais Herbert Howells ac un gan Richard Strauss. Canwr a chanddo bresenoldeb ar lwyfan a llais dymunol.
Yr oedd Claire Meghnagi, soprano 31 oed o Israel, eto yn bresenoldeb dramatig. Mae ganddi lais - llais mawr - a phersonoliaeth garismatig. Edrychaf ymlaen yn fawr i'w chlywed yn canu i gyfeiliant cerddorfa yn y brif gystadleuaeth.
Yn dilyn caneuon gan Mendelssohn, Schubert, y Ffrancwr Chausson a Hahn cyflwynodd ddwy gân ddoniol o'r cylch caneuon I Hate Music! gan Bernstein. Diddorol gweld a fydd hi neu Anna Stephany yn rownd derfynol y gystadleuaeth hon.
Tybiaf y bydd Ji-Min Park, tenor 30 oed o Weriniaeth Corea, yn fwy cysurus yn y brif gystadleuaeth. Nid tenor telynegol mohono ond yn ddiamau y mae'n gerddor ardderchog a llwyfan yr opera fydd ei fyd.
Felly, hefyd, Vira Slywotzky, soprano 26, sy'n cynrychioli Unol Daleithau'r America. Presenoldeb dramatig, aeddfed, ar lwyfan gyda llais mawr. Mae'n debyg bod gwaed Wcráin rywle yn ei gwythiennau. Bydd yn ddiddorol ei chlywed gyda cherddorfa. Cafodd y gynulleidfa werth eu harian gyda'i pherfformiadau o ddwy gân allan o Serate Musicali gan Rossini.
Hawdd ei dychmygu yn pwyso ar y bar mewn tafarn yn y gorllewin gwyllt ac yn bwrw iddi ond, rywsut, ni allaf ei gweld yn cyrraedd brig y gystadleuaeth hon ond gyda cherddorfa yn y brif gystadleuaeth pwy ŵyr.
Y ddwy wnaeth argraff gynnar oedd y Saesnes a'r ferch o Israel, gyda'r ail fymryn lleia ar y blaen.