gan Nia Lloyd Jones un o'n blogwyr gwadd yn Eisteddfod yr Urdd
Nia sydd yng nghefn y llwyfan yn hgoli cystadleuwyr a phobl ddifyr eraill ar gyfer ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru. Dyma flas ar ei hwythnos hyd yn hyn:
O'm safbwynt i, does na 'mond un lle i fod yn y steddfod, a hynny ydi cefn llwyfan! Mi welwch chi bawb yn fanno, a fu 'leni ddim gwahanol.
Dydd Llun ydi diwrnod y plantos bach, a'r diwrnod anodda i mi fel arfer! Ond yn sicr mi roedd y 'cute factor' yn uchel iawn, ac fe fwynheais i roi'r byd yn ei le hefo Gethin Greenhalgh o Ysgol Gynradd Maenclochog - a'i acen hyfryd - enillydd y llefaru unigol blwyddyn 2 ac iau; Deio Llyr - sy'n ffan mawr o dîm pêl-droed Lerpwl - enillydd yr unawd cerdd dant bl.2 ac iau a'r seren swynol - Llio Meirion Rogers - enillydd yr unawd a'r unawd gerdd dant bl.3 a 4.
Mae dawn yn offerynwyr ifanc yma yn anhygoel - ac un ddaeth i'r brig ddwywaith oedd Charlie Lovell Jones o Ysgol Y Wern - gan ennill yr unawd llinynnol a'r unawd piano dan 12 oed. Gŵr bonheddig go iawn!
Fore Mawrth mi ges i fy hypnoteiddio gan un o gymeriadau Cyflwyniad Dramatig Ysgol y Garnedd - Daniel Glyn.
Sôn am gymeriad - oedd yn cuddio dan y wig a'r sbectol dywyll a llongyfarchiadau iddo hefyd ar ennill gwobr am sgwennu drama yn yr Eisteddfod eleni.
Mae'r wobr am yr ysgol fwyaf siaradus yn cael ei rhannu ar hyn o bryd rhwng Ysgol Login Fach, Llwchwr ac Ysgol Chwilog.
Mi faswn i wedi medru sgwrsio am amser maith efo nhw ond yn anffodus roedd llais y cynhyrchydd yn mynnu bod rhaid i'r sgwrsio ddod i ben!
Dydd Mercher ydi diwrnod yr adrannau, a braf oedd gweld y cyfarwydd a'r newydd yn ymddangos.
Yn ogystal â hynny mi fues i'n trafod maint ceir, a pham nad oedd car teulu Gwenno Glyn Brown yn ddigon mawr i gario'i thelyn i lawr i Gaerdydd.
Hithau, wedyn, yn benthyg telyn gan gwmni nid anenwog, ac yn ennill y gystadleuaeth unawd telyn blwyddyn 7-9.
Ac wrth gwrs, 'da chi'n gweld y bobl ryfedda gefn llwyfan - gan gynnwys Elvis,Madonna a Marilyn Monroe - aelodau o barti cerdd dant Adran Llangwm. Rhyfedd o fyd!
Ganol p'nawn mi ges i air efo criw ymgom Botwnnog, Gwilym sydd yn brysur yn adeiladu cytiau ieir (am £60 - bargen!!), ei frawd - Ianto - sydd yn dipyn o gyfansoddwr, a Ioan - sydd wrth ei fodd yn dangos gwartheg yn sioe Nefyn!!
Bore Iau, a dyma gyrraedd oed uwchradd!
Yng nghystadleuaeth y partïon bechgyn bl 7-9 fe aeth Ceri o Ysgol Llambed ymlaen ar ei faglau- a hynny oherwydd iddo ddisgyn a thorri ei droed yn yr ysgol.
Ac ar ôl mynd adref - fe aeth ei fam dros ei droed efo'i chadair olwyn hithau!
Creadur bach.
Jyst cyn cinio mi wnes i wirioni wrth ffeindio Shay Siwoku gefn llwyfan.
Mi wnes i gyfarfod Shay am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd ac yntau yn stiwardio am y tro cyntaf.
Mae ei deulu yn dod yn wreiddiol o Nigeria, ac yn 2000 fe benderfynodd o fynd ati i ddysgu Cymraeg a gwneud hynny ar ei ben ei hun am y tair blynedd gyntaf - cyn mynychu cwrs Wlpan wedyn.
Mae o wedi gwirioni ar yr eisteddfod. Byw mewn gobaith y ca' i sgwrs efo fo eto yn Y Bala!
Hwyl am y tro
Nia