³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Peryglon Addysgol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:51, Dydd Llun, 6 Ebrill 2009

Am Ddaniel Owen a Robyn y Sowldiwr y meddyliais i yn syth wrth ddarllen am yr arolwg diweddara sy'n cwyno am blant yn camymddwyn mewn ysgolion a throi bywyd yn 'uffern' i rai athrawon.

Y darn sy'n dweud i un allan o bob tri o athrawon orfod dygymod â rhieni ymosodol yn dod i'r ysgol i achub cam eu plant gyda'u dyrnau drodd fy meddwl i at yr Hen Ddaniel.

Ac yn arbennig y bennod hynod honno yn Rhys Lewis lle mae Rhys yn cael ei daro'n anymwybodol am gamymddwyn gan Robyn y Sowldiwr a oedd yn rhedeg yr ysgol lle'r oedd yn ddisgybl.

"Y foment nesaf yr oedd y gansen yn fy nhorri bob ffordd ar draws fy mhen, fy ngwar, fy nghefn, fy nwylaw, fy nhgoesau , a phobman ar fy nghorff. Aeth yn nos dywyll arnaf a chollais bob ymwybyddiaeth," meddai Rhys yn ddramatig.

Canlyniad hyn fu i Bob, brawd mawr Rhys, ymweld â'r ysgol a rhoi cweir i Robyn gerbron ei ddisgyblion - a hynny er mawr lawenydd i ddarllenwyr er 1882, yn enwedig y plant ysgol hynny y bu'r nofel yn rhan o'u maes llafur.

Y canlyniad i Bob, fodd bynnag, oedd cael ei ddiarddel o'r seiat am wrthod ymddiheuro am achub cam ei frawd mewn ffordd mor ymosodol a hynny'n achosi rhwyg rhyngddo ef â'i fam grefyddol, Mari Lewis.

Yn ôl y nofel Robert Davies yw enw iawn Robyn y Soldiwr a ddibynnai gymaint ar ofn a chansen i gadw trefn.

"Gw^r cydnerth a chnawdol ydoedd ef, ac mewn gwth o oedran. Treuliasai ei ddyddiau ym myddin Prydain Fawr... fel milwr dewr a phybyr. Pan ddychwelodd yr hen soldiwr i'w dref enedigol, yr oedd yn ddiffygiol o'i goes dde," meddai Rhys.

Ond yn ôl y beirniaid llenyddol go brin bod yna Robyn y Sowldiwr go iawn yn ardal Yr Wyddgrog ond ei fod yn gyfuniad o wahanol ysgolfeistri y gwyddai Daniel Owen amdanynt yn yr ardal.
Ond y mae o ddiddordeb i'r Comisiynwyr Addysg gyfeirio, yn y Llyfrau Gleision, yn dilyn eu hymweliad â'r Wyddgrug yn 1857 at ddyn a choes bren ganddo a oedd yn ysgolgfeistr er nad oedd ganddo unrhyw gymwysterau addysgol.

Ac wrth sôn am Robyn mae'r nofelydd yn dweud mai'r unig rai a wrandawai ar Robyn druan "gyda gradd o ddiddordeb" oedd mynychwyr y Cross Foxes "lle yr oedd Robert yn ymwelydd cyson".

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.