RHODRI Maaaaaam! Mae batri鈥檙 tabled yn fflat. Lle mae fy ngwifren b诺er? Maaaaaaaam!!
ERIN Haia Rhodri, popeth yn iawn?
RHODRI Ma鈥 Mam a Dad wedi cuddio pob un charjar yn y t欧, achos bo nhw鈥檔 credu mod i鈥檔 treulio gormod o amser ar fy nhabled! Ond dw i angen mynegi fy marn ar g锚m newydd 鈥楥roesi鈥檙 Ffordd鈥. Sut allai wneud hynny heb b诺er?
ERIN Wel, pam na ddoi di am dro gyda fi, a gei di fynegi dy farn ar y g锚m dwi鈥檔 hoffi chwarae? Ei henw yw 鈥楤ywyd Go Iawn鈥.
RHODRI Yyy, ar ba blatfform mae鈥檙 g锚m 鈥榤a?
ERIN S鈥檇im angen iti ei lawrlwytho, mi wyt ti wedi鈥檌 chwarae ers iti gael dy eni. Iawn, beth am gychwyn gyda mynegi barn ar un o lefelau syml y g锚m, o鈥檙 enw 鈥楽gwrs Normal Wyneb yn Wyneb鈥, sef beth sydd wedi bod yn digwydd ers iti ddod allan o鈥檙 t欧.
RHODRI Yn fy marn i, mae o鈥檔 iawn.
ERIN Ie, mae angen bach mwy o waith na hynny. Yn gynta鈥, gwna ddatganiad am sut ti鈥檔 teimlo am y pwnc.
RHODRI Oce, wel, ar un llaw, mae siarad wyneb yn wyneb yn eitha鈥 pleserus, ond ar y llaw arall mae o hefyd braidd yn hen ffasiwn.
ERIN Nesa鈥, rho reswm am y datganiad yma.
RHODRI Wel, dwi o鈥檙 farn mod i鈥檔 medru cyfleu fy hun yn well wrth anfon negeseuon at bobl yn hytrach na siarad efo nhw.
ERIN Dwi angen enghraifft i bwysleisio鈥檙 pwynt yma.
RHODRI Wel, pan dwi鈥檔 anfon neges, mi fedra鈥檌 ddangos mod i鈥檔 hapus drwy ddanfon emoji o wyneb hapus. Neu os dwi鈥檔 drist, anfon wyneb trist.
ERIN Ma鈥 rheina yn bwyntiau dilys, ond wrth fynegi barn, mae angen iti ystyried gwahanol farnau, rhag ofn i dy ddadl fod yn rhy unllygeidiog. Mae emojis yn gallu cyfleu hapusrwydd, ond gelli di wneud hynny wrth chwarae 鈥楤ywyd Go Iawn鈥 hefyd. Er enghraifft, nid oes ff么n gan mamgu, felly mae hi鈥檔 cyfleu hapusrwydd drwy sefyll o 鈥榤laen i a gwenu.
RHODRI O ia!
ERIN Felly, mae angen crynhoi hyn i gyd, a dod i ryw fath o gasgliad.
RHODRI Wrth chwarae 鈥楤ywyd Go Iawn鈥, mi rois i gynnig ar y lefel 鈥楽gwrs Normal Wyneb yn Wyneb鈥. Roedd yn ddiddorol yn fy marn i, ond i fod yn onest mae鈥檔 well gen i gyfathrebu drwy decstio, oherwydd dwi鈥檔 teimlo 鈥檓od i鈥檔 medru cyfleu fy hun yn well fel 鈥榥a. Wedi dweud hynny, mae emojis yn bethau eitha鈥 amhersonol, a dwi rwan yn gwybod bod modd imi gyfleu fy emosiynau mewn ffordd fwy real wrth chwarae 鈥楤ywyd Go Iawn鈥. Ond, yn y pen draw, mae鈥檔 well gen i decstio, achos mae fy wyneb i鈥檔 edrych yn rhyfedd pan dwi鈥檔 gwenu neu鈥檔 crio.
ERIN Da iawn. Barod am y lefel nesa鈥, 鈥楶rynu Rhywbeth o Siop Go Iawn鈥?
RHODRI Ond dw i鈥檔 meddwl fod prynu nwyddau oddi ar y we gymaint yn haws.
ERIN Pam?
RHODRI Achos mi fedra i gymryd fy amser i ddewis be dwi isho. G锚m gyfrifiadurol, er enghraifft. Mi fedra i ddewis y g锚m, talu amdani, ac mae鈥檔 cyrraedd y diwrnod wedyn heb i mi orfod gadael y t欧, ac felly dw i鈥檔 arbed arian bws.
ERIN Ie, ond pan ti鈥檔 chwarae 鈥楤ywyd Go Iawn鈥, fe alli di fynd i siop go iawn, a siarad gyda pherson, i ofyn eu barn nhw. Mae鈥檔 fwy personol, ac maen nhw鈥檔 gallu dy helpu i ddewis. Mewn 芒 ti!
Beth yw dy farn ar y lefel 鈥楶rynu Rhywbeth o Siop Go Iawn鈥 felly?
RHODRI Credaf fod manteision di-ri i brynu nwyddau ar-lein. Dwi bendant yn meddwl ei bod hi鈥檔 system fwy cyfleus na gorfod cerdded yr holl ffordd i鈥檙 siop. Rheswm arall bod siopa ar-lein yn well yw oherwydd bod y nwyddau鈥榥 aml yn rhatach. Ond, un peth chewch chi ddim wrth siopa ar-lein yw sgwrs ddifyr debyg i鈥檙 un ges i efo鈥檙 person tu 么l i鈥檙 cownter heddiw, sydd wedi fy narbwyllo i beidio prynu鈥檙 g锚m on i isho, gan y bydd un well ar werth wythnos nesa鈥. Felly i grynhoi, mae siopa ar-lein yn fwy cyfleus ac yn rhatach, ond yn brofiad llai personol.
ERIN Mae 鈥楤ywyd Go Iawn鈥 yn gr锚t! Ti ddim angen bod ar dy dabled o hyd.
RHODRI Ia, wel, dwi ddim mor si诺r am hynny. Achos tra on i yn y siop, mi brynais i hwn!
Diolch am y g锚m Erin, credaf yn gryf fod 鈥楤ywyd Go Iawn鈥 yn g锚m eitha鈥 diddorol, achos bod y cymeriadau a鈥檙 graffeg yn ymddangos mor real. Yn y pen draw, dwi鈥檔 gwbod lle dwi isho bod. Adra efo fy nhabled!