ERIN Sori bo fi鈥檔 hwyr, o鈥檇d rhaid i fi 鈥榥eud fy ngwallt ar gyfer fy hunlun 鈥榥ewydd ddeffro鈥. Iawn, c鈥檓on, ni鈥檔 hwyr.
MALI I beth?
ERIN Sai 鈥榙i penderfynu eto, ond fydd e鈥檔 hwyl!
MALI Wel dyna fo, diolch byth鈥 On i 鈥檇i cychwyn cael llond bol o aros.
ERIN Llond bol? On i鈥檔 meddwl bo ni鈥檔 bwyta yn y dre? Wedes di ar y ff么n bo ti ddim am fwyta, a nawr ma 鈥檇a ti lond bol?
MALI Na, idiom yw e.
ERIN Oi, pwy ti鈥檔 alw鈥檔 idiot?
MALI Idiom ydi pan ti鈥檔 defnyddio term neu ddywediad sy鈥檔 golygu rhywbeth arall.
ERIN Mae鈥檙 hwch wedi mynd trwy鈥檙 siop!
MALI Ie, enghraifft berffaith. Yn hytrach na dweud, 鈥滿ae pethau wedi mynd yn wael ac yn gyflym iawn鈥, mae idiom yn defnyddio syniadau a delweddau i gyfleu hynny.
ERIN Joseff, mae e wedi mynd dros ben llestri.
MALI Da iawn Erin, enghraiffft dda arall. Dros ben llestri 鈥 idiom sy鈥檔 disgrifio pan ma pethau neu berson wedi mynd yn rhy bell gyda鈥檌 ymddygiad. Dros ben llestri.
ERIN Mae鈥檔 bwrw hen wragedd a ffyn.
MALI Ie wir, fy hoff idiom, ffordd arall o ddweud mae hi鈥檔 glawio. Pam hen wragedd a ffyn, pwy 芒 wyr? Ond dyna ydy pwynt idiom. Mae鈥檔 fwy diddorol na jyst dweud 鈥榤a hi鈥檔 glawio鈥.
ERIN A dyma Rhodri. Ma鈥 fe鈥檔 siarad trwy ei het.
MALI Ma鈥 hynny bach yn gas, ti鈥檔 gw'bod bod 鈥榮iarad trwy dy het' yn golygu siarad mewn ffordd ddibwys a diflas.
ERIN Ond ma鈥 fe鈥檔 siarad trwy ei het.
MALI Erin!
RHODRI Ie, champion, 鈥榙a chi isho set DJ dwy awr. Dawns, hip hop a stryd? Wrth gwrs. A darfod erbyn hanner dydd achos dyna pryd ma' meithrin yn cau. Oce cwl. Awe efo鈥檙 micsars!
ERIN Rhodri, pam bo ti鈥檔 siarad trwy dy het?
MALI Erin!
RHODRI Hei genod, licio鈥檙 ffordd newydd 鈥檓a o wisgo het? Mae o mor c诺l, fi di鈥檙 unig berson sy鈥檔 meiddio鈥檌 neud o.
ERIN Mae angen tynnu blewyn o drwyn Rhodri.
MALI Erin, beth sy鈥檔 bod arnat ti? Dw i鈥檔 gallu gweld bo ti鈥檔 deall idiomau, ac felly dylse ti wybod bod 'tynnu blewyn o drwyn rhywun' yn golygu bod yn gas a phigo arnyn nhw鈥
RHODRI Na, ma鈥 hi鈥檔 iawn, ma鈥 isho tynnu blewyn o 鈥檔hrwyn i.
Dacw Joseff yn dod, 芒鈥檌 wynt yn ei ddwrn!
MALI Ma鈥檙 idiom 鈥榞wynt yn ei ddwrn鈥 yn awgrymu bod person yn rhedeg nerth ei draed.
RHODRI Na, mae o wedi bod yn defnyddio past dannedd blas cyrri, ac am i mi weld os ydi o鈥檔 arogli鈥檔 neis, felly ddudis i wrtho fo i chwythu mewn i鈥檞 ddwrn, i mi fedru rhoi 鈥檓arn.
JOSEFF Shwmae bawb. Rhodri, ma 鈥榥gwynt i yn fy nwrn, cymra 鈥榬oglad o hwnna, gw鈥檅oi.
MALI Ie, wel dyna ni, ma pawb yn deall idiomau nawr.
ERIN Hmm, ti鈥檔 meddwl? Sai di bod yn gwrando ar air ti 鈥榙i ddweud. Beth yw idiom? Ti鈥檔 galw fi鈥檔 idiot?