Hafaliadau cromliniau - Canolradd ac UwchDatrys hafaliadau cwadratig ar ffurf graff [Uwch]
Mae graffiau cwadratig, ciwbig ac esbonyddol yn dri gwahanol fath o graffiau crwm. Gallwn eu defnyddio i ddatrys hafaliadau sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 graff.
Datrys hafaliadau cwadratig ar ffurf graff 鈥 Uwch yn unig
Gallwn ddefnyddio graffiau crwm i ddatrys hafaliadau. Y pwyntiau lle mae鈥檙 gromlin yn croesi llinell benodol ar y graff yw鈥檙 atebion i鈥檙 hafaliad.
Enghraifft
Er mwyn datrys yr hafaliad \(\text{x}^2+\text{x}-\text{2 = 0}\), mae angen i ni edrych ar graff \(\text{y = x}^2+\text{x}-\text{2}\).
Atebion yr hafaliad yw鈥檙 pwyntiau lle mae \(\text{y = 0}\), hynny yw, lle mae鈥檙 graff yn croesi鈥檙 echelin-\(\text{x}\).
Mae鈥檙 graff yn croesi鈥檙 echelin-\(\text{x}\) yn \(\text{x = -2}\) a \(\text{x = 1}\), felly鈥檙 rhain yw atebion yr hafaliad \(\text{x}^2+\text{x}-\text{2 = 0}\).
Ar y llaw arall, os ydyn ni eisiau datrys \(\text{x}^2+\text{x}-\text{2 = 10}\), mae angen i ni edrych ar y pwyntiau lle mae \(\text{y = 10}\).
I wneud hyn, gallwn lunio鈥檙 llinell \(\text{y = 10}\) ar y graff. Cawn yr atebion drwy edrych ar y pwyntiau lle mae鈥檙 gromlin yn croesi鈥檙 llinell hon.
Mae鈥檙 gromlin yn croesi鈥檙 llinell wrth bwyntiau \(\text{x = -4}\) a \(\text{x = 3}\) felly dyma鈥檙 atebion i hafaliad \(\text{x}^2+\text{x}-\text{2 = 10}\).
Question
Datrysa鈥檙 hafaliad cwadratig \(\text{x}^2+\text{3x}-\text{10 = 0}\) drwy lunio鈥檙 graff \(\text{y= x}^2+\text{3x}-\text{10}\) yn gyntaf.