˿

Hafaliadau cromliniau - Canolradd ac UwchGraffiau ciwbig – Uwch yn unig

Mae graffiau cwadratig, ciwbig ac esbonyddol yn dri gwahanol fath o graffiau crwm. Gallwn eu defnyddio i ddatrys hafaliadau sy’n gysylltiedig â’r graff.

Part of MathemategAlgebra

Graffiau ciwbig – Uwch yn unig

Graff ciwbig yw unrhyw graff sydd â \(\text{x}^3\) yn ei hafaliad. Mae graffiau ciwbig yn dal i fod ar ffurf cromlin ond maen nhw’n gallu bod â mwy nag un newid cyfeiriad ynddyn nhw.

Enghraifft

Gad i ni lunio graff \(\text{y = x}^3-\text{x~+~8}\). Yn gyntaf, mae angen i ni gwblhau ein tabl gwerthoedd:

\(\text{x}\)-3-2-10123
\(\text{y = x}^3-\text{x~+~8}\)
\(\text{x}\)
-3
-2
-1
0
1
2
3
\(\text{y = x}^3-\text{x~+~8}\)
  • pan fo \(\text{x}\) = -3, \(\text{y}\) = (-3 × -3 × -3) – (-3) + 8 = -16
  • pan fo \(\text{x}\) = -2, \(\text{y}\) = (-2 × -2 × -2) – (-2) + 8 = 2
  • pan fo \(\text{x}\) = -1, \(\text{y}\) = (-1 × -1 × -1) – (-1) + 8 = 8
  • pan fo \(\text{x}\) = 0, \(\text{y}\) = (0 × 0 × 0) – 0 + 8 = 8
  • pan fo \(\text{x}\) = 1, \(\text{y}\) = (1 × 1 × 1) – 1 + 8 = 8
  • pan fo \(\text{x}\) = 2, \(\text{y}\) = (2 × 2 × 2) – 2 + 8 = 14
  • pan fo \(\text{x}\) = 3, \(\text{y}\) = (3 × 3 × 3) – 3 + 8 = 32
\(\text{x}\)-3-2-10123
\(\text{y = x}^3-\text{x~+~8}\)-1628881432
\(\text{x}\)
-3
-2
-1
0
1
2
3
\(\text{y = x}^3-\text{x~+~8}\)
-16
2
8
8
8
14
32

Yna bydd y graff yn edrych fel hyn:

Graff yn dangos yr hafaliad y = x3 - x + 8

Question

Cwblha’r tabl a llunia graff \(\text{y = x}^3+\text{x}^2-\text{12}\).

\(\text{x}\)-3-2-10123
\(\text{y = x}^3+\text{x}^2-\text{12}\)
\(\text{x}\)
-3
-2
-1
0
1
2
3
\(\text{y = x}^3+\text{x}^2-\text{12}\)