成人快手

Trafod canlyniadauDod i gasgliadau

Mae cynrychioliadau graffigol o ddata yn gyffredin yng nghymdeithas heddiw. Mae deall a dehongli graffiau yn gywir yn sgil hanfodol bwysig sy'n ddefnyddiol ym meysydd gwahanol o fywyd.

Part of Mathemateg RhifeddYstadegau

Dod i gasgliadau

Yn aml bydd gwyddonwyr yn defnyddio graffiau i gynrychioli perthynas rhwng dau newidyn. Yn gyffredinol, os oes cydberthyniad rhwng dau newidyn, yna fel arfer maen nhw'n gysylltiedig mewn rhyw ffordd.

Mewn arholiad, bydd gofyn i ti ddisgrifio ac esbonio graffiau.

Enghraifft

Graff yn dangos sut mae indecs m脿s y corff (BMI) cyfartalog oedolion ymhlith Americanwyr yn cynyddu dros amser

Ystyrir bod BMI o 18-25 yn iach ac mae dros 25 yn golygu bod yr unigolyn yn rhy drwm. Mae'r graff uchod yn dangos sut mae'r BMI cyfartalog ymhlith Americanwyr yn newid dros amser. Disgrifia ac esbonia'r duedd o'r graff.

Datrysiad

Yn gyntaf byddwn ni'n disgrifio'r graff:

  1. Mae yna gydberthyniad positif 鈥 mae'r graff yn dechrau'n isel ar y chwith ac yn gorffen yn uchel ar y dde.
  2. Ers 1980 mae'r graddiant neu gyfradd newid wedi cynyddu.

Yna rydyn ni'n ceisio esbonio beth mae ein disgrifiadau'n golygu:

  1. Oherwydd bod yna gydberthyniad cadarnhaol mae hyn yn dangos bod BMI yn cynyddu dros amser. Mae'r ffaith bod yna gydberthyniad yn golygu ei bod yn debygol bod y ddau newidyn yn gysylltiedig. Un esboniad posib yw bod pobl wedi mynd yn llai gweithgar a bod eu hagweddau tuag at fwyd wedi gwaethygu dros amser.
  2. Mae'r gyfradd newid gynyddol yn golygu bod y broblem yn gwaethygu.

Nid yw'r ffaith bod yna gydberthyniad yn golygu bod yna achosiaeth. Hynny yw, dim ond oherwydd bod gan graff gydberthyniad, nid yw hynny'n golygu bod y ddau newidyn yn gysylltiedig yn uniongyrchol.

Edrycha ar y graff hwn. Mae'n dangos yn glir bod achosion o awtistiaeth wedi cynyddu wrth i werthiant bwydydd organig gynyddu. Mae鈥檙 graff yn awgrymu bod bwyd organig yn achosi awtistiaeth, fodd bynnag nid yw'r cydberthyniad yn cynnig unrhyw dystiolaeth dros hynny. Mae鈥檙 graff ond yn dangos bod nifer yr achosion o awtistiaeth a gwerthiant bwyd organig wedi cynyddu dros y cyfnod a fesurwyd.

Graff yn dangos sut mae gwerthiant bwyd organig wedi cynyddu fel y mae nifer yr unigolyn sy'n cael diagnosis o awtistiaeth

Question

Mae Tom yn meddwl bod y graff hwn yn profi bod hufen i芒'n achosi ymosodiadau gan siarcod, mae e'n anghywir.

Esbonia pam fod yna gydberthyniad rhwng y ddau newidyn.

Graff yn dangos y cydberthyniad rhwng gwerthiant hufen i芒 a nifer yr ymosodiadau gan siarcod.