成人快手

Trafod canlyniadauPatrymau ac eithriadau

Mae cynrychioliadau graffigol o ddata yn gyffredin yng nghymdeithas heddiw. Mae deall a dehongli graffiau yn gywir yn sgil hanfodol bwysig sy'n ddefnyddiol ym meysydd gwahanol o fywyd.

Part of Mathemateg RhifeddYstadegau

Patrymau ac eithriadau

Y rhesymau pam fod graffiau mor bwysig yw eu bod yn darparu ffordd i ddelweddu data sy'n hawdd ei deall. Yn aml gall pobl adnabod tueddiadau a phatrymau wrth edrych ar graff na fydden nhw'n gallu eu gweld wrth edrych ar dabl o rifau.

Mae'n bwysig dy fod yn gallu adnabod patrymau a thueddiadau mewn data graffigol a deall a defnyddio termau mathemategol allweddol wrth i ti ateb unrhyw gwestiynau.

Mewn mathemateg, mae yna dair ffordd allweddol y gallwn ni ddisgrifio tuedd mewn graff fel y mae'r tri graff gwasgariad hyn yn dangos:

Cydberthyniad positif 鈥 wrth i un newidyn gynyddu mae'r llall yn cynyddu hefyd.

Graff yn dangos sut mae nifer yr hufen i芒 a werthwyd yn cynyddu wrth i'r tymheredd gynyddu

Cydberthyniad negatif 鈥 wrth i un newidyn gynyddu mae'r llall yn lleihau.

Graff yn dangos sut mae nifer y senglau a werthwyd yn gostwng wrth i nifer yr wythnosau yn y 40 Uchaf gynyddu

Dim cydberthyniad 鈥 wrth i un newidyn gynyddu nid oes unrhyw effaith ar y llall.

Graff yn dangos y cydberthyniad rhwng IQ a rhif t欧

Yn ogystal 芒 bod yn gallu nodi'r cydberthyniad, hefyd mae'n rhaid i ni fod yn gallu disgrifio ac esbonio si芒p y graff.

Llinell syth

Graff llinell syth 芒 graddiant serth

Mae hyn yn golygu bod y berthynas rhwng y ddau newidyn yn llinol. Serthrwydd y llinell yw'r graddiant. Mae'r graddiant yn dweud wrthym ni beth yw'r gyfradd newid - pa mor gyflym mae un newidyn yn newid o'i gymharu 芒'r llall.

Mae graddiant mwy serth yn golygu cyfradd uwch o newid.

Cromlin i fyny

Graff cromlin i fyny, neu gromlin amgrwm, sy'n dangos nad yw'r berthynas yn gyfrannol, ac mae'r gyfradd newid yn cynyddu

Mae'r gromlin hon yn dweud wrthym ni nad yw'r berthynas yn llinol a bod y gyfradd newid yn cynyddu.

Cromlin i lawr

Graff cromlin i lawr, neu gromlin geugrwm, sy'n dangos nad yw'r berthynas yn gyfrannol, ac mae'r gyfradd newid yn gostwng

Eto, mae'r gromlin hon yn dweud wrthym ni nad yw'r berthynas rhwng y ddau newidyn ar yr echelin yn llinol, fodd bynnag y tro hwn mae'r gyfradd newid yn lleihau.