成人快手

Trafod canlyniadauGraffiau camarweiniol

Mae cynrychioliadau graffigol o ddata yn gyffredin yng nghymdeithas heddiw. Mae deall a dehongli graffiau yn gywir yn sgil hanfodol bwysig sy'n ddefnyddiol ym meysydd gwahanol o fywyd.

Part of Mathemateg RhifeddYstadegau

Graffiau camarweiniol

Wrth ddehongli graffiau, mae yna dri pheth y dylet ti edrych amdanyn nhw'n gyntaf:

  1. Beth yw'r labeli ar yr echelinau, beth mae'r pwyntiau data'n cynrychioli?
  2. Ym mha unedau mae'r symiau hyn yn cael eu mesur?
  3. Beth yw'r patrwm? A yw'n llinell syth neu grom?

Hefyd mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus am graffiau camarweiniol. Yn aml defnyddir y graffiau hyn i'n hargyhoeddi o safbwynt penodol neu i werthu cynnyrch.

Dychmyga petai'r graff hwn wedi cael ei arddangos yn ystod stori newyddion am brisiau tai sy'n cynyddu:

Graff yn dangos sut mae pris t欧 ar gyfartaledd wedi cynyddu o 拢80,000 ym 1998 i 拢82,000 ym 1999

Dyluniwyd y graff i wneud i ti feddwl y bu newid mawr mewn pris yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Edrycha'n ofalus ar yr echelin Y. A wnest di sylwi mai 拢80,000 oedd y rhif cyntaf ar yr echelin?

Petai'r graff wedi cael ei lunio'n gywir byddai'n edrych fel hyn:

Yr un graff yn dangos sut mae pris t欧 ar gyfartaledd wedi cynyddu o 拢80,000 ym 1998 i 拢82,000 ym 1999, fodd bynnag, mae'r echelin y yn dechrau ar sero

Ond nid yw'r graff hwn mor syfrdanol ac felly mae yn llawer llai tebygol o gael ei ddefnyddio mewn stori newyddion.

Weithiau nid oes unrhyw fesuriadau o gwbl ar echelin graffiau camarweiniol! Edrycha ar yr enghraifft ganlynol:

Graff tri dimensiwn ag echelin y 芒 label 鈥榥umber of singles sold鈥 (nifer y senglau a werthwyd). Nid oes rhifau ar yr echelin y

Mae'r graff hwn yn hollol ddiystyr heb label ar yr echelin Y ac felly mae'n amhosibl dweud beth sy'n digwydd yma mewn gwirionedd. Hefyd gallai'r ffordd mae'r graff wedi'i lunio dy dwyllo i feddwl bod nifer y CDs a werthwyd ym 1995 yn fwy na 1997 pan mae'r nifer yr un peth mewn gwirionedd! Mae gwell fersiwn wedi'i lunio isod.

Graff bar ag echelin y 芒 label 鈥榥umber of singles sold鈥 (nifer y senglau a werthwyd). Mae'r echelin y wedi'i rhifo o 0 i 200,000

Question

Pam wyt ti'n meddwl bod y graff canlynol yn gamarweiniol?

Graff ag echelin x 芒 labeli o 0 i 4, a'r echelin y 芒 labeli o 0 i 16