Ffactorau sy鈥檔 cyfyngu ar ffotosynthesis
Mae nifer o ffactorau鈥檔 cyfrannu at broses ffotosynthesisProses gemegol a ddefnyddir gan blanhigion ac alg芒u i wneud glwcos ac ocsigen o carbon deuocsid a d诺r, gan ddefnyddio egni golau sydd wedi ei amsugno gan cloroffyl. Mae ocsigen yn cael ei gynhyrchu fel isgynnyrch ffotosynthesis.. Fel arfer, y ffactor sy鈥檔 gweithredu ar y lefel isaf fydd ffactor gyfyngol Ffactor, os yw鈥檔 gweithredu ar y lefel isaf, sy鈥檔 lleihau neu鈥檔 rhwystro cyfradd ffotosynthesis, ee tymheredd, dwysedd golau a crynodiad carbon deuocsid. y broses. Mae llawer o ffactorau cyfyngol sy鈥檔 gallu lleihau cyfradd ffotosynthesis, ee tymheredd, arddwysedd golau a chrynodiad carbon deuocsid.
Tymheredd
Fel adweithiau cemegol eraill, mae cyfradd ffotosynthesis yn cynyddu wrth i鈥檙 tymheredd godi. Mae ffotosynthesis yn cael ei reoli gan ensymProtein sy'n catalyddu neu'n cyflymu adwaith cemegol yn y corff., sy鈥檔 cael eu dadnatureiddioOs yw ensym wedi ei ddadnatureiddio, bydd ei adeiledd a鈥檌 swyddogaeth yn newid. Mae hyn yn gallu cael ei achosi gan wres, newid mewn pH neu gan asiantau cemegol. os yw鈥檙 tymheredd yn rhy uchel. O ganlyniad, mae cyfradd ffotosynthesis yn cyrraedd ei huchaf ar dymheredd optimwm, yna鈥檔 lleihau. Mae uchafswm y gyfradd yn dibynnu ar y ffactorau eraill sy鈥檔 effeithio ar y broses.
Ymchwilio tanbeidrwydd golau
Golau sy鈥檔 darparu鈥檙 egni sydd ei angen ar gyfer ffotosynthesis. Mae cynyddu arddwysedd y golau鈥檔 cynyddu cyfradd ffotosynthesis, cyn belled 芒 bod digonedd o garbon deuocsid a d诺r ar gael. Mae uchafswm y gyfradd yn dibynnu ar y ffactorau eraill sy鈥檔 effeithio ar y broses.
Mae llawer o ffyrdd o ymchwilio i sut mae golau鈥檔 cyfrannu at ffotosynthesis. Yn yr arbrawf hwn, mae golau鈥檔 cael ei symud oddi wrth blanhigyn sy鈥檔 cyflawni ffotosynthesis i amrywio arddwysedd y golau mae鈥檙 planhigyn yn ei gael. Y pellaf mae鈥檙 golau鈥檔 symud oddi wrth y planhigyn, y lleiaf o swigod ocsigen mae ffotosynthesis yn eu cynhyrchu.
Gallwn ni ddefnyddio鈥檙 ddeddf sgw芒r gwrthdro i ddisgrifio arddwysedd golau ar wahanol bellteroedd oddi wrth ffynhonnell golau. Mae hon yn datgan bod arddwysedd golau mewn cyfrannedd gwrthdro 芒 sgw芒r y pellter oddi wrth y ffynhonnell.
Mewn termau ymarferol, mae hyn yn golygu, os yw鈥檙 golau鈥檔 cael ei symud ddwywaith mor bell oddi wrth y planhigyn, bydd y planhigyn yn cael chwarter yr egni.
Cyfrifo tanbeidrwydd golau
Gallwn ni ddefnyddio鈥檙 fformiwla hon i gyfrifo arddwysedd golau.
\({\text{Arddwysedd golau}}\propto\frac{1}{{\text{Pellter}}^{2}}\)
Mae鈥檙 symbol 鈭 yn golygu 鈥榤ewn cyfrannedd 芒鈥.
Felly, pan mae鈥檙 golau 20 cm oddi wrth y planhigyn, bydd yn cael
\(\frac{1}{{0.2}{\text{ m}}^{2}}\) = 25 uned mympwyol
Ond pan mae鈥檙 golau 40 cm oddi wrth y planhigyn, dim ond
\(\frac{1}{{0.4}{\text{ m}}^{2}}\) = 6.25 uned mympwyol
Carbon deuocsid
Mae angen carbon deuocsid ar gyfer ffotosynthesis. Mae cynyddu crynodiad carbon deuocsid yn cynyddu cyfradd ffotosynthesis, cyn belled 芒 bod y planhigyn yn ddigon cynnes ac yn cael digonedd o olau a d诺r. Mae uchafswm y gyfradd yn dibynnu ar y ffactorau eraill sy鈥檔 effeithio ar y broses.
Question
Beth sy鈥檔 cyfyngu ar gyfradd ffotosynthesis ym mhwyntiau A a B ar y graff? Pa dystiolaeth o鈥檙 graff sy鈥檔 dangos hyn?
Ym mhwynt A, crynodiad carbon deuocsid sy鈥檔 cyfyngu ar gyfradd ffotosynthesis. Y dystiolaeth sy鈥檔 dangos hyn yw bod cyfradd ffotosynthesis yn cynyddu wrth i grynodiad carbon deuocsid gynyddu.
Ym mhwynt B, gallai鈥檙 tymheredd neu鈥檙 arddwysedd golau fod yn ffactor gyfyngol. Rydyn ni鈥檔 gwybod nad carbon deuocsid yw鈥檙 ffactor gyfyngol, oherwydd dydy cynyddu鈥檙 carbon deuocsid ddim yn cynyddu cyfradd ffotosynthesis. Felly, rhaid bod rhywbeth arall yn atal y gyfradd rhag cynyddu.