˿

Helaethiadau/Siapiau tebyg – Canolradd ac UwchPerimedr, arwynebedd a chyfaint [Uwch]

Mae ffactorau graddfa’n sicrhau bod siâp yn aros yn yr un cyfraneddau pan fo’r maint yn newid. Gall hyn fod yn bwysig wrth newid maint llun i wneud yn siŵr nad yw’r ddelwedd yn cael ei haflunio.

Part of Mathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Perimedr, arwynebedd a chyfaint – haen uwch yn unig

Pan fyddwn ni’n helaethu siâp yn ôl ffactor graddfa, mae hyd bob ymyl a’r perimedr yn cael eu lluosi â’r ffactor graddfa.

Dau betryal. Un 4 cm wrth 2 cm, perimedr 12 cm, y llall 8 cm wrth 4 cm, perimedr 24 cm. Saeth â label 'ffactor graddfa 2' yn dangos sut i gyfrifo perimedr y petryal newydd sydd wedi'i helaethu

Pan fyddwn ni’n helaethu siâp yn ôl ffactor graddfa, mae arwynebedd y siâp yn cael ei luosi â’r ffactor graddfa wedi ei sgwario.

Dau betryal. Un 4 wrth 2 cm, arwynebedd 12 cm sgwâr, y llall 8 wrth 4 cm, arwynebedd 24 cm sgwâr. Saeth â label 'ffactor graddfa 2' yn dangos sut i gyfrifo arwynebedd y petryal sydd wedi'i helaethu

Pan fyddwn ni’n helaethu siâp yn ôl ffactor graddfa, mae cyfaint y siâp yn cael ei luosi â chiwb y ffactor graddfa.

Dau giwb. Un 5 wrth 3 wrth 2 cm, y llall 15 wrth 9 wrth 6 cm. Saeth â label 'ffactor graddfa 3 ciwbaidd' yn dangos sut i gyfrifo cyfaint y ciwb newydd sydd wedi'i helaethu

Question

Arwynebedd dau boster tebyg yw 24 cm2 a 384 cm2. Os yw perimedr y poster llai yn 20 cm, cyfrifa berimedr y poster mwy.

Question

Mae dau danc tebyg yn cael eu llenwi â dŵr. Mae cynhwysedd un yn 30 m3, a chynhwysedd y llall yn 240 cm3. Cyfrifa’r ffactor graddfa ar gyfer hyd y tanciau a’r ffactor graddfa ar gyfer yr arwynebedd arwyneb.