Hafaliadau mudiant
Mae hafaliadau mudiant yn ymwneud 芒鈥檙 pump mesur canlynol:
- u 鈥 cyflymder cychwynnol
- v 鈥 cyflymder terfynol
- a 鈥 cyflymiad
- t 鈥 amser
- s 鈥 dadleoliad
O鈥檙 uchod, mae u, v, a, ac s yn fesurau fector. Felly, cofia wneud fectorau sy鈥檔 mynd i un cyfeiriad yn bositif, a fectorau i鈥檙 cyfeiriad arall yn negatif.
Mesur sgalar yw amser (t).
Os ydyn ni鈥檔 gwybod unrhyw dri o鈥檙 pump mesur, gallwn ni gyfrifo鈥檙 ddau arall 芒鈥檙 pedwar hafaliad canlynol:
- v = u + at
- x = ut + 陆at2
- x = (u + v) 梅 2 脳 t
- v2 = u2 + 2as
Er mwyn i ni allu defnyddio鈥檙 hafaliadau mudiant, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 gwrthrych fod yn teithio mewn llinell syth ar gyflymiad cyson.
Question
Mae hoelen yn cael ei thanio o wn hoelion i mewn i floc llonydd o bren. Mae buanedd yr hoelen yn 380 ms-1 wrth fynd i mewn i鈥檙 pren.
Mae鈥檙 hoelen yn mynd yn llonydd ar 么l treiddio 60 mm i mewn i鈥檙 pren.
Faint o amser mae鈥檔 ei gymryd i鈥檙 hoelen fynd yn llonydd? Tybia fod y grym arafuMath o wrthiant aer - hwn yw ffrithiant aer ar wrthrych sy'n symud, hynny yw bydd grym arafu yn gweithredu ar b锚l sy'n cael ei chicio mewn cystadleuaeth ciciau o'r smotyn. ar yr hoelen yn gyson wrth iddi dreiddio i鈥檙 pren.
u = 380 ms-1
v = 0
a = ?
t = ?
s = 60 脳 10-3
v2 = u2 + 2as
02 = 3802 + 2a 脳 60 脳 10-3
a = -1,203,333 ms-2
v = u +at
0 = 380 + (-1,203,333)t
t = 0.0003157
Yr amser mae鈥檔 ei gymryd i鈥檙 hoelen fynd yn llonydd yw 3.16 脳 10-4 s.
Question
Mae p锚l yn cael ei thaflu鈥檔 fertigol i fyny 芒 chyflymder cychwynnol o 24.5 ms-1. Cei di anwybyddu effeithiau gwrthiant aer.
Cyfrifa鈥檙 amser mae鈥檔 ei gymryd i鈥檙 b锚l gyrraedd ei huchder uchaf.
Gad i fesurau fector anhysbys fynd i鈥檙 cyfeiriad positif ar gyfer fectorau. Mae gan y mudiant fertigol gyflymiad cyson o 9.8 ms-2 tuag at ganol y Ddaear.
u = 24.5 ms-1
v = 0
a = - 9.8 ms-2
t = ?
s = ?
v = u + at
0 = 24.5 + (-9.8)t
t = 2.5 s
Question
Nawr cyfrifa uchafswm yr uchder mae鈥檙 b锚l yn ei gyrraedd.
u = 24.5 ms-1
v = 0
a = -9.8 ms-2
t = 2.5 s
s = ?
s = ut + 陆at2
s = 24.5 脳 2.5 + 陆(-9.8) 2.52
s = 30.625
Yr uchder uchaf yw 31 m.