Gall dilyniannau fod yn llinol, yn gwadratig neu鈥檔 ymarferol ac wedi eu seilio ar fywyd bob dydd. Gallwn ni ganfod termau mewn dilyniannau yn gyflymach trwy ganfod rheolau cyffredinol.
Defnyddio鈥檙 nfed term ar gyfer dilyniannau cwadratig
Os yw \(n\)fed term dilyniant cwadratig yn hysbys, gallwn gyfrifo鈥檙 termau yn y dilyniant hwnnw, yn ogystal 芒 defnyddio ein gwybodaeth am ddatrys hafaliadau er mwyn penderfynu a yw rhif penodol yn derm yn y dilyniant.
Enghraifft
Ysgrifenna bum term cyntaf y dilyniant \(2n^2 + 1\)
Mae \(n\) yn cynrychioli鈥檙 safle yn y dilyniant. Y term cyntaf yn y dilyniant yw pan fo \(n = 1\), yr ail derm yn y dilyniant yw pan fo \(n = 2\), ac yn y blaen.
Er mwyn canfod y termau, amnewidia rif y safle am \(n\).
Term 1af: \(n = 1\)
2il derm: \(n = 2\)
3ydd term: \(n = 3\)
4ydd term: \(n = 4\)
5ed term: \(n = 5\)
Felly pum term cyntaf y dilyniant \(2n^2 + 1\) yw 3, 9, 19, 33, 51.
Question
Canfydda bum term cyntaf y dilyniant gyda鈥檙 \(n\)fed term yn \(3n^2 - 2\).
(3 脳 12) 鈥 2 = 3 鈥 2 = 1
(3 脳 22) 鈥 2 = 12 鈥 2 = 10
(3 脳 32) 鈥 2 = 27 鈥 2 = 25
(3 脳 42) 鈥 2 = 48 鈥 2 = 46
(3 脳 52) 鈥 2 = 75 鈥 2 = 73
Felly pum term cyntaf y dilyniant \(3n^2 - 2\) yw 1, 10, 25, 46, 73
Cyfrifo termau mewn dilyniant
Pan fo鈥檙 \(n\)fed term yn hysbys, gallwn ei ddefnyddio i gyfrifo termau penodol mewn dilyniant.
Enghraifft
Beth yw鈥檙 50fed term yn y dilyniant \(2n^2 + 7\)?
Mae \(n = 50\) ar gyfer y 50fed term. Felly i ganfod hwn, mae angen i ni amnewid 50 yn lle \(n\).
\(2n^2 + 7\) = (2 脳 502) + 7 = 5,007
Question
Beth yw鈥檙 20fed term yn y dilyniant \(5n^2 - 4\)?
(5 脳 202) - 4 = 1,996
Enghraifft
A yw鈥檙 rhif 100 yn y dilyniant \(4n^2 - 10\)?
Er mwyn cyfrifo a yw 100 yn y dilyniant ai peidio, rho鈥檙 \(n\)fed term yn hafal i鈥檙 rhif a datrysa鈥檙 hafaliad.
Gan nad yw ail isradd 27.5 yn rhif cyfan, rydyn ni鈥檔 gwybod nad yw 100 yn y dilyniant.
Question
A yw鈥檙 rhif 150 yn y dilyniant \(3n^2 + 3\)?
Felly mae 150 yn y dilyniant a hwnnw yw鈥檙 7fed term.