成人快手

Mynegiadau cwadratig - Canolradd ac UwchFfactorio鈥檙 gwahaniaeth rhwng dau sgw芒r

Defnyddir hafaliadau cwadratig yn aml yn algebra, er enghraifft wrth ddisgrifio mudiant taflegryn. Dysga sut i ffurfio a thrin hafaliadau cwadratig a sut i鈥檞 datrys gydag amryw o ddulliau gwahanol.

Part of MathemategAlgebra

Ffactorio鈥檙 gwahaniaeth rhwng dau sgw芒r

Weithiau mae gennyn ni hafaliadau cwadratig ar y ffurf \({x}\)2 - \({a}\), mewn geiriau eraill, nid oes yna derm yn \({x}\). Mae鈥檔 hawdd iawn i ni ffactorio鈥檙 mynegiadau hyn os cofiwn ni fod ehangiad (\({x}\) + \({y}\))(\({x}\) - \({y}\)) = \({x}\)2 - \({y}\)2

Enghraifft

Canfydda ffactorau \({x}\)2 - 64

Ateb

Gan gofio bod (\({x}\) + \({y}\))(\({x}\) - \({y}\)) = \({x}\)2 - y2, yn ein mynegiad ni mae \({y}\)2 = 64 ac felly \({y}\) yw ail isradd 64, sef 8. Yn yr un modd, rydyn ni鈥檔 ail israddio \({x}\)2 i gael \({x}\).

Gobeithio y bydd yn hawdd i ti weld bod \({x}\)2 - 64 = (\({x}\) + 8)(\({x}\) - 8)

Question

Canfydda ffactorau 9\({x}\)2 - 100