Mynegiadau cwadratig - Canolradd ac UwchFfactorio hafaliadau cwadratig
Defnyddir hafaliadau cwadratig yn aml yn algebra, er enghraifft wrth ddisgrifio mudiant taflegryn. Dysga sut i ffurfio a thrin hafaliadau cwadratig a sut i鈥檞 datrys gydag amryw o ddulliau gwahanol.
Gan edrych yn ofalus ar y mynegiad hwn a鈥檌 gymharu gyda \({x}\)2 + 4\({x}\) + 3, gallwn weld bod (\({a}\) + \({b}\)) = 4
\({ab}\) = 3
Gallwn ddatrys yr uchod drwy ddefnyddio dull cynnig a gwella. Rydyn ni鈥檔 chwilio am ddau rif sy鈥檔 rhoi 3 pan fyddwn yn eu lluosi, a 4 pan fyddwn yn eu hadio. Yn amlwg, os yw \({a}\) = 1 a \({b}\) = 3, cawn ateb sy鈥檔 bodloni鈥檙 ddau faen prawf.
Mae hyn yn golygu bod \({x}\)2 + 4\({x}\) + 3 = (\({x}\) + 3)(\({x}\) + 1)
Enghraifft un
Canfydda ffactorau \({x}\)2 - 8\({x}\) + 7
Fel y gwelson ni uchod, rydyn ni鈥檔 chwilio am ddau rif sy鈥檔 rhoi鈥檙 ateb +7 pan fyddwn yn eu lluosi, a -8 pan fyddwn yn eu hadio.
Y dewis amlwg ar gyfer rhifau sy鈥檔 lluosi i roi 7 yw:
(1, 7) a (-1, -7)
Mae -1 + -7 yn rhoi鈥檙 ateb -8 felly hwn yw鈥檙 dewis cywir yn amlwg. Felly: