成人快手

Theatr GerddYsgrifennu am Theatr Gerdd

Mae Theatr Gerdd yn defnyddio caneuon, dawns a deialog i adrodd stori. Mae hanes hir i'r genre poblogaidd hwn ac mae yna rolau arbenigol sydd ynghlwm wrth lwyfannu drama gerdd fodern.

Part of DramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Ysgrifennu am Theatr Gerdd

Os byddi di鈥檔 ysgrifennu am sioe gerdd rwyt ti wedi ei gweld, mae dau beth pwysig i鈥檞 cofio yn ogystal 芒鈥檙 pethau rwyt ti鈥檔 eu nodi fel arfer mewn adolygiad o鈥檙 fath - dylunio, goleuo, actorion, perfformiadau ac ati. Y cyntaf ydy esbonio graddfa鈥檙 cynhyrchiad yn glir. Mewn cynhyrchiad o Mary Poppins yn y West End er enghraifft, roedd yr actor yn hedfan ar draws yr awditoriwm. Dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd mewn cynhyrchiad mewn neuadd bentref a does dim pwynt beirniadu sioe sydd 芒 chyllideb isel am hynny.

Y peth arall ydy鈥檙 gerddoriaeth a sut y caiff ei llwyfannu. Mae angen sicrhau perfformiad da yn yr ystyr gerddorol ac ar gyfer y dawnsfeydd mae angen dawnswyr medrus, egni, ynghyd 芒鈥檙 gallu i sicrhau bod y gynulleidfa yn teimlo emosiwn y gerddoriaeth. Byddet ti鈥檔 disgwyl i鈥檙 arddull y caneuon ddiffinio arddull y sioe. Os byddi di鈥檔 adolygu drama gerdd, bydd dy ymateb di i鈥檙 arddull honno鈥檔 ganolog i dy adolygiad. Os byddi di am ddarllen adolygiadau theatr proffesiynol, darllena鈥檙 cylchgrawn The Stage neu鈥檙 adran theatr mewn papurau newydd poblogaidd arlein.

Actorion yn perfformio yn Deffro'r Gwanwyn, Theatr Genedlaethol Cymru, 2011
Image caption,
Actorion yn perfformio yn Deffro'r Gwanwyn, Theatr Genedlaethol Cymru, 2011 LLUN: Keith Morris

Darllena Ysgrifennu a gwerthuso theatr i ddysgu mwy.

Related links