成人快手

Theatr GerddTarddiad Theatr Gerdd

Mae Theatr Gerdd yn defnyddio caneuon, dawns a deialog i adrodd stori. Mae hanes hir i'r genre poblogaidd hwn ac mae yna rolau arbenigol sydd ynghlwm wrth lwyfannu drama gerdd fodern.

Part of DramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Tarddiad Theatr Gerdd

Mae dram芒u yn cynnwys caneuon ac egwyliau cerddorol wedi bod yn boblogaidd ers cyfnod theatr Shakespeare, ac yn gynharach mewn ymarferion defodol hynafol yng Ngroeg, sef tarddiad gwreiddiol pob math o theatr. Roedd dram芒u yn aml yn cynnwys darnau cerddorol o鈥檙 enw masques. Ond doedd y rhain ddim yn rhan sylfaenol o strwythur y darn a byddai modd perfformio鈥檙 ddrama hebddyn nhw heb golli ystyr. Fyddai hi ddim yn hawdd perfformio drama gerdd fodern heb y caneuon gan eu bod yn elfen hanfodol o鈥檙 arddull a鈥檙 stori.

Yn hanner cyntaf yr 17eg ganrif, hyd amser ddiwedd y 1650au, roedd masque yn ffurf boblogaidd o adloniant yn y llys ynddo鈥檌 hun. Roedd y llwyfannu鈥檔 goeth ac yn ddrudfawr. Yr enw mwyaf blaenllaw a gysylltir 芒 ffurf masque oedd y pensaer a鈥檙 dylunydd gwisgoedd a setiau, Inigo Jones.

Related links