Gwerth lle a threfnu degolion
Gwerthoedd lle degolion
Rydyn ni鈥檔 defnyddio pwynt degol i wahanu unedau oddi wrth rannau o rif cyfan (megis degfed, canfed, milfed ayyb).
- Degfed ran ydy \({0.1}\), neu \(\frac{1}{10}\) o uned.
- Canfed ran ydy \({0.01}\), neu \(\frac{1}{100}\) o uned.
- Milfed ran ydy \({0.001}\), neu \(\frac{1}{1,000}\) o uned.
Yn \({52.13}\), gwerth y ffigur \({1}\) ydy \(\frac{1}{10}\), a gwerth y ffigur \({3}\) ydy \(\frac{3}{100}\).
Trefnu degolion
Wrth drefnu rhifau, dylet ti bob amser gymharu鈥檙 digidau ar y chwith yn gyntaf.
Er enghraifft, pa un ydy鈥檙 mwyaf, \({2.301}\) ynteu \({2.32}\)?
Mae gan y ddau rif ddwy uned a thri degfed, ond does gan \({2.301}\) ddim canfed, tra bod gan \({2.32}\) ddau ganfed. Felly, mae \({2.32}\) yn fwy na \({2.301}\).
Adio sero
Ffordd arall o edrych arni ydy ychwanegu sero at ddiwedd \({2.32}\) (dydy hyn ddim yn newid ei werth gan ei fod ar 么l y pwynt degol).
\({2.320}\) a \({2.301}\) ydy鈥檙 ddau rif nawr ac mae鈥檔 eitha hawdd gweld bod \({2.320}\) yn fwy (yn union fel y mae \({2,320}\) yn fwy na \({2,301}\)).
Question
Yn y rhif \({3.546}\), beth ydy gwerth y ffigur \({4}\)?
Gwerth y ffigur \({4}\) ydy \(\frac{4}{100}\), neu \({0.04}\).
Question
Rho鈥檙 rhifau canlynol mewn trefn, o鈥檙 lleiaf i鈥檙 mwyaf: \({3.2}\), \({3.197}\), \({3.02}\), \({3.19}\)
Gest ti \({3.02}\), \({3.19}\), \({3.197}\), \({3.2}\)?
Tair uned sydd ym mhob rhif, felly dechreua drwy gymharu鈥檙 degfedau. Does gan \({3.02}\) ddim degfed, mae gan \({3.197}\) a \({3.19}\) un degfed, ac mae gan \({3.2}\) ddau ddegfed. Felly, \({3.02}\) ydy鈥檙 lleiaf a \({3.2}\) ydy鈥檙 mwyaf.
Gelli di hefyd ysgrifennu鈥檙 rhifau fel \({3.020}\), \({3.190}\), \({3.197}\) a \({3.200}\) a鈥檜 cymharu.