Cyfrifo canran cynnydd a lleihad
Cyfrifo canran cynnydd
Mae cyfrifo canran cynnydd yn sgìl bwysig i ddaearyddwyr. Pan fydd daearyddwyr yn casglu data dros gyfnod mae’n bosibl y bydd y canlyniadau’n cynyddu. Drwy gyfrifo canran y cynnydd gall daearyddwr weld faint mae ei ddata wedi newid. Er enghraifft, efallai y byddai’n ddefnyddiol i ni ganfod faint mae lled sianel afon yn ei gynyddu wrth i ni deithio i lawr yr afon.
- ڰڲ’r gwahaniaethYr hyn sy’n weddill ar ôl tynnu un rhif o rif arall. rhwng y ddau rif sy’n cael eu cymharu.
- Rhanna’r cynnydd â’r rhif gwreiddiol a lluosa’r ateb â 100.
- Yn fyr: canran y cynnydd = cynnydd ÷ rhif gwreiddiol × 100
Er enghraifft, rydym yn cyfrif nifer y robinod coch mewn ardal goediog mewn dau fis gwahanol. Ym mis Rhagfyr cafodd 15 robin eu cyfrif. Ym mis Ionawr cafodd 23 robin eu cyfrif. Beth yw canran y cynnydd yn nifer y robinod yn y coetir?
- Y gwahaniaeth rhwng y ddau rif yw 8
- 8 ÷ 15 × 100 = 53.3
- Canran y cynnydd yn nifer y robinod gafodd eu gweld yn y coetir yw: 53.3%
Cyfrifo canran lleihad
Mae cyfrifo canran lleihad hefyd yn sgìl ddefnyddiol. Er enghraifft, efallai y byddai’n ddefnyddiol canfod faint mae maint gronynnau llwythY gronynnau o graig a gaiff eu cario gan afon. yn ei leihau mewn afon wrth i ni deithio i lawr yr afon.
- ڰڲ’r gwahaniaeth rhwng y ddau rif sy’n cael eu cymharu.
- Rhanna’r lleihad â’r rhif gwreiddiol a lluosa’r ateb â 100.
- Yn fyr: canran y lleihad = lleihad ÷ rhif gwreiddiol × 100
Er enghraifft, rydym yn cyfrif nifer y robinod coch mewn coetir ym mis Chwefror ac ym mis Mawrth. Ym mis Chwefror cafodd 22 robin eu cyfrif. Ym mis Mawrth cafodd 12 robin eu cyfrif. Beth yw canran y lleihad yn nifer y robinod yn y coetir?
- Y gwahaniaeth rhwng y ddau rif yw 10
- 10 ÷ 22 × 100 = 45.4
- Canran y lleihad yn nifer y robinod gafodd eu gweld yn y coetir yw: 45.4%