成人快手

AmserDyddiau, misoedd a blynyddoedd

Mae gan amser wahanol unedau. Mae gwybod sut i fesur amser yn ddefnyddiol gan ei fod yn help i wybod pryd mae dy hoff raglen ar y teledu, neu sawl diwrnod sydd mewn mis.

Part of MathemategAmser

Dyddiau, misoedd a blynyddoedd

Defnyddia鈥檙 rhigwm hwn i dy helpu i gofio sawl diwrnod sydd ym mhob mis:

\({30}\) diwrnod yw rhifedi

Mehefin, Ebrill, Tachwedd, Medi.

Yn saith o鈥檙 lleill mae un yn rhagor,

ond \({28}\) sydd ym mis Chwefror,

a chyfrif un yn fwy sy'n rhaid

pan fydd hi yn flwyddyn naid!

Question

Os mai dydd Mawrth ydy鈥檙 \({28}^{ain}\) o Fawrth, pa ddiwrnod ydy鈥檙 \({6}^{ed}\) o Ebrill yn yr un flwyddyn?

Blwyddyn naid

Mae \({365}\) o ddiwrnodau mewn blwyddyn. Felly mae \({366}\) mewn blwyddyn naid, sef diwrnod ychwanegol ym mis Chwefror. Bydd blwyddyn naid yn digwydd bob pedair blynedd, ac mae modd ei rhannu 芒 \({4}\) a chael rhif cyfan, er enghraifft:

Roedd \({1996}\) yn flwyddyn naid achos \({1996}\div{4} = {499}\).

Doedd \({1934}\) ddim yn flwyddyn naid achos \({1934}\div{4} = {483.5}\).