Graffiau daearyddol eraill
Siartiau cylch
Mae siartiau cylch yn dangos canrannau fel cylch wedi’i rannu’n segmentau. Byddai modd defnyddio siart cylch i ddangos sut mae disgyblion yn teithio i’r ysgol. Mae pob darn o ddata’n cael ei ddangos fel cyfran o 360 oherwydd mae 360 gradd mewn cylch. Os yw 25 myfyriwr allan o 100 yn teithio i’r ysgol mewn car, caiff yr ongl ei chyfrifo drwy ddefnyddio’r cyfrifiad (25 ÷ 100) × 360 = 90 gradd.
Trawsluniau a diagramau barcud
Llinell ar draws cynefin neu ran o gynefin yw trawslun. Mae'n gallu bod mor syml â gosod darn o linyn neu raff mewn llinell ar y llawr. Mae modd arsylwi nifer yr organebau o bob rhywogaeth sy’n bresennol, a’u cofnodi’n rheolaidd ar hyd y trawslun.
Graff sy’n dangos nifer yr anifeiliaid (neu ganran y gorchudd ar gyfer planhigion) yn erbyn pellter ar hyd trawslun yw diagram barcud.
Hydrograffau
Mae hydrograff yn cynnwys dau graff – glawiad (mewn barrau) ac arllwysiad (mewn llinell).
Dehongli hydrograff
Ystyr glawiad brig yw’r cyfnod â’r glawiad mwyaf. Daw’r arllwysiad brig (pan mae llif yr afon ar ei fwyaf) yn nes ymlaen gan ei fod yn cymryd amser i’r dŵr gyrraedd yr afon (amser oediad). Mae llif (sylfaen) yr afon yn dechrau codi (cromlin esgynnol) pan fydd dŵr ffo, dŵr tir a dŵr pridd yn cyrraedd yr afon. Mae’r math o graig, y llystyfiant, y gogwydd a’r lleoliad (hynny yw, a yw hon yn afon drefol) yn effeithio ar ba mor serth yw’r gromlin. Mae’r gromlin ddisgynnol yn dangos bod dŵr yn dal yn cyrraedd yr afon ond bod llai ohono. Mae dŵr ffo/llif yr afon yn cael ei fesur mewn cumecs, sef metrau ciwbig yr eiliad. Mae dyodiad yn cael ei fesur mewn mm, sef milimetrau.
Graffiau gwasgariad
Mae graffiau gwasgariad yn dangos y berthynas rhwng dwy set o ddata. Mae'r pwyntiau yn cael eu lleoli gan ddefnyddio echelin x ac echelin y. Weithiau bydd y pwyntiau hyn yn ffurfio patrwm. Gallai graff gwasgariad ddangos y berthynas rhwng llythrennedd a chynnyrch domestig gros (GDP).
Mae llinell ffit orau yn helpu i ddangos cydberthyniad neu batrymau yn y data. Mae’r llinell ffit orau yn mynd drwy ganol y pwyntiau ar y graff, gyda’r un faint o bwyntiau ar bob ochr i’r llinell yn ddelfrydol.
- Ystyr cydberthyniad cryf yw pan mae pwyntiau’n agos iawn i’r llinell ffit orau.
- Ystyr cydberthyniad gwan yw pan mae’r pwyntiau’n bell oddi wrth y llinell ffit orau.
- cydberthyniad positifMewn graff gwasgariad, pan fydd un mesur yn cynyddu a’r llall yn lleihau, gelwir y cydberthyniad yn gydberthyniad positif. pan mae cynnydd mewn un ffactor yn achosi i ffactor arall gynyddu – bydd y llinell ffit orau yn mynd o waelod yr ochr chwith i frig yr ochr dde.
- cydberthyniad negatifMewn graff gwasgariad, pan fydd un mesur yn lleihau a’r llall yn cynyddu, gelwir y cydberthyniad yn gydberthyniad negatif. pan mae gostyngiad mewn un ffactor yn achosi i ffactor arall ostwng – bydd y llinell ffit orau yn mynd o frig yr ochr chwith i waelod yr ochr dde.
Symbolau cyfrannol, pictogramau a chroestoriadau
Mae modd ychwanegu symbolau cyfrannol at fapiau neu graffiau i ddangos gwybodaeth am wahanol lefydd. Mae’r graff hwn yn plotio digwyliad oesNifer y blynyddoedd y mae disgwyl i berson fyw ar gyfartaledd yn dibynnu ar ble maen nhw’n byw. yn erbyn incwm ar gyfer pob gwlad. Mae’n dangos maint y boblogaeth hefyd. Mae pob gwlad yn cael ei chynrychioli gan gylch, lle mae maint y cylch yn gymesur â phoblogaeth y wlad, hynny yw – po fwyaf y cylch y mwyaf yw poblogaeth y wlad honno.
Mae pictogramau fel siartiau bar ond maen nhw’n defnyddio lluniau neu eiconau, yn hytrach na barrau, i gyfleu’r data. Byddai modd defnyddio pictogramau i ddangos yr amodau tywydd mewn lle penodol.
Graffiau llinell sy’n rhoi golwg lorweddol ar dirwedd yw trawstoriadSiâp neu arwyneb a sy'n cael ei ddangos o ganlyniad i dorri rhywbeth yn ei hanner, fel bod modd gweld y tu mewn iddo, er enghraifft trawstoriad o afon neu siâp mathemategol.. Maen nhw’n gallu cynnwys nodweddion fel bryniau a chymoedd, neu ddyfnderoedd fel dyfnder afon. Mae trawstoriadau o fryniau yn defnyddio cyfuchlinLlinell ar fap sy’n cysylltu pwyntiau o’r un uchder uwch ben lefel y môr – ac felly yn cynrychioli graddiant y tir. i bennu uchder y tir. Caiff trawstoriadau o ddyfnder afonydd eu dangos gan ddefnyddio rhifau negyddol, fel bod y graff llinell yn dangos dyfnder yn hytrach nag uchder.
Graffiau ymledol/radar
Gelwir graffiau ymledol/radar yn siartiau rhosyn weithiau. Mae ganddyn nhw bwynt canolog ac mae data yn ymledu am allan ohono. Mae modd plotio’r data fel pwyntiau ar hyd llinell, lle mae’r holl bwyntiau’n cael eu cysylltu i ffurfio siâp. Byddai modd ei blotio fel segmentau ar hyd llinell hefyd. Caiff cyflymder a chyfeiriad gwynt eu dangos ar ffurf graff ymledol yn aml. Gall graffiau ymledol ddangos llawer o ddata gwahanol a does dim rhaid iddyn nhw gynnwys pwyntiau’r cwmpawd.