˿

Sgiliau graffigol – CBACMathau o graffiau ym maes daearyddiaeth

Mae modd defnyddio graffiau a mapiau i ddangos gwybodaeth ddaearyddol. Mae’n bwysig dewis y dull gorau o gyflwyno data. Mae gwybod sut i lunio graff yn sgil hanfodol ym maes daearyddiaeth.

Part of DaearyddiaethSgiliau mathemategol

Mathau o graffiau ym maes daearyddiaeth

Mae graffiau’n ffordd ddefnyddiol o ddangos data rhifiadol. Mae amrywiaeth o graffiau i dy helpu i amlygu patrymau, a’u defnyddio i ddod i gasgliadau. Mae’n hollbwysig dewis y graff cywir.

Edrych ar amrywiaeth o graffiau a’u defnyddiau. (Cynnwys Saesneg)

Graffiau llinell

Mae graffiau llinell yn dangos newid dros amser neu bellter. Mae yn dangos yr amser neu’r pellter. Byddai modd defnyddio siart linell i ddangos y newid mewn strwythur cyflogaeth gwlad dros amser. Mae’r graff hwn yn dangos bod tua 11% o’r bobl sy’n gweithio yn yr oes ôl-ddiwydiannol yn gweithio yn y diwydiannau cynradd, 31% yn gweithio yn y diwydiannau eilaidd, 54% yn gweithio yn y diwydiannau trydyddol, a 4% yn gweithio yn y diwydiannau cwaternaidd. Sylwer bod cyfanswm y rhifau yn 100 y cant.

Graff llinell yn dangos canran y bobl sy’n gweithio yn y diwydiannau cynradd, eilaidd, trydyddol a chwaternaidd.
Figure caption,
Mae’r diwydiannau cynradd wedi dirywio ers yr oes gyn-ddiwydiannol. Roedd y diwydiannau eilaidd yn eu hanterth yn ystod yr oes ddiwydiannol. Mae’r diwydiannau trydyddol wedi cynyddu. Dim ond yn ddiweddar y mae’r diwydiannau cwaternaidd wedi dod i’r amlwg

Siartiau bar

Mae siartiau bar yn dangos data wedi’u grwpio fel barrau petryal, ee nifer y sy’n ymweld â chyrchfan gwyliau bob mis. Mae siartiau bar sydd wedi’u rhannu yn hollti pob bar petryal er mwyn dadansoddi’r wybodaeth ymhellach. Byddai modd defnyddio siart far wedi’i rhannu i ddangos oedran y twristiaid sy’n ymweld â chyrchfan gwyliau.

Mae’r siart bar gyntaf yn dangos nifer y twristiaid bob mis. Mae’r ail siart bar yn dangos dadansoddiad o oedran y twristiaid bob mis.
Figure caption,
Mae siart bar yn dangos un gwerth fesul bar, ee nifer y twristiaid bob mis. Mae siart bar wedi’i rannu yn hollti’r bar i rannau gwahanol liw. Mae allwedd yn dadansoddi’r data ymhellach

Siartiau bar sy’n dangos faint o bobl o bob oedran sy’n byw mewn lle neu wlad yw . Mae pyramidau poblogaeth yn dangos y barrau ar eu hochr yn hytrach nag am i fyny. Mae echelin x yn dangos nifer y bobl ac mae yn dangos eu hoedran. Mae’r barrau ar y chwith yn dangos faint sy’n wrywaidd a’r barrau ar y dde yn dangos faint sy’n fenywaidd.

Mae’r pyramid hwn yn defnyddio ffigurau absoliwt, ond mae modd defnyddio canrannau ar echelin x mewn pyramidau poblogaeth hefyd.

Pyramid poblogaeth yn dangos nifer y bobl, eu hoedran, a’r niferoedd gwrywaidd a benywaidd.
Figure caption,
Yr ystod oedran 30-39 oed sydd â’r mwyaf o bobl ynddo yn y DU, ac mae’r niferoedd yn lleihau’n sylweddol ar ôl 55 oed

Mae modd cyfuno siartiau bar a graffiau llinell. Mae graffiau hinsawdd yn enghraifft o hyn. Mae echelin x yn dangos misoedd y flwyddyn, ac mae dwy echelin y sy’n dangos tymheredd cyfartalog a glawiad. Mae llinell werdd yn dangos y tymheredd a barrau’n dangos y glawiad.

Mae angen graffiau bar ar wahân pan nad yw’r data sy’n cael ei gyflwyno yn barhaus. Felly, bydd gan graffiau bar ar wahân fylchau (yr un maint) rhyngddyn nhw bob amser.

Siart hinsawdd sy’n cyfuno siart far a graff llinell.
Figure caption,
Mae tymheredd cyfartalog y DU ar ei uchaf ym mis Gorffennaf a mis Awst (23°C). Mae’n glawio drwy’r flwyddyn, ac mae’r glawiad mwyaf ym mis Hydref (63 mm)

Wrth ddarllen graffiau hinsawdd, mae pum darlleniad safonol:

  • tymheredd uchaf = y tymheredd uchaf sydd wedi’i gofnodi
  • tymheredd isaf = y tymheredd isaf sydd wedi’i gofnodi
  • ystod tymheredd = y gwahaniaeth rhwng y tymheredd uchaf a’r tymheredd isaf
  • glawiad blynyddol = cyfanswm y glawiad dros 12 mis
  • patrwm glawiad = yr amrywiad drwy gydol y flwyddyn

Dehongli graffiau hinsawdd: Weithiau bydd angen i ti edrych ar y wybodaeth mewn graff a disgrifio hinsawdd yr ardal.

Chwilia am batrymau yn y data am dymheredd.

  • Ydy’r tymheredd yr un fath drwy gydol y flwyddyn? Os yw’n wahanol, faint o dymhorau mae’r lleoliad yn eu cael?
  • Pa un yw’r tymor cynhesaf? Ydy hi’n gynnes (10 i 20°C), yn boeth (20 i 30°C) neu’n boeth iawn (dros 30°C)?
  • Pa un yw’r tymor oeraf? Ydy hi’n fwyn (0 i 10°C), yn oer (-10 i 0°C) neu’n oer iawn (o dan -10°C)?
  • Beth yw’r amrediad tymheredd? (Tynna'r tymheredd isaf o’r tymheredd uchaf).

Chwilia am batrymau yn y data am y glawiad.

  • Ydy hi’n glawio drwy gydol y flwyddyn?
  • Beth yw patrwm y glawiad? Edrycha i weld a oes rhai tymhorau yn fwy sych neu wlyb na’i gilydd.
  • Beth yw cyfanswm y glawiad blynyddol? Adia gyfanswm pob mis at ei gilydd i gael y cyfanswm blynyddol.
  • Wedyn edrycha ar y wybodaeth am y tymheredd a’r glawiad gyda’i gilydd – beth mae hyn yn ei ddweud wrthyt ti am yr ardal?

Disgrifia'r patrymau o ran y tymheredd a’r glawiad, gan gynnwys sut maen nhw’n gysylltiedig â’i gilydd. Nawr mae gen ti ddisgrifiad o’r hinsawdd.

Edrycha ar y graff hinsawdd uchod eto. Beth alli di ei gasglu am yr hinsawdd?

Histogramau

Mae histogramau yn debyg i siartiau bar, ond maen nhw’n dangos yn hytrach na grwpiau o ddata. Byddai modd defnyddio histogram i ddangos amlder daeargrynfeydd o bob cryfder ar .

Mae histogramau yn dangos barrau wrth ymyl ei gilydd heb fwlch rhyngddyn nhw.
Figure caption,
Mae uchder y bar yn dangos amlder y data, ee nifer y daeargrynfeydd fesul cryfder. Yn y graff yma, y daeargrynfeydd â’r amlder mwyaf yw’r rhai lefel 3 ar raddfa Richter

More guides on this topic