成人快手

Hafaliadau聽cydamserol - Canolradd ac UwchDatrys hafaliadau cydamserol yn graffigol

Mae angen defnyddio sgiliau algebraidd wrth ymdrin 芒 hafaliadau cydamserol er mwyn canfod gwerth yr anhysbysion mewn dau hafaliad neu fwy, sy鈥檔 wir ar yr un pryd.

Part of MathemategAlgebra

Datrys hafaliadau cydamserol yn graffigol

Gallwn ddatrys hafaliadau cydamserol yn algebraidd 苍别耻鈥档 graffigol. Mae angen gwybodaeth am blotio graffiau llinol a chwadratig er mwyn datrys hafaliadau鈥檔 graffigol.

I ganfod datrysiadau o graffiau, chwilia am y pwynt lle mae鈥檙 ddau graff yn croesi ei gilydd. Dyma bwynt y datrysiad. Er enghraifft, y datrysiad ar gyfer graffiau \(y = x + 1\) a \(x + y = 3\) yw鈥檙 pwynt cyfesurynnol (1, 2).

Dau graff ar grid. Mae 1 wedi ei labelu ag y = x + 1, a鈥檙 llall wedi ei labelu 芒 x + y = 3. Mae鈥檙 2 graff yn croesi yn y pwynt cyfesurynnol 1, 2

Y datrysiad i鈥檙 hafaliadau hyn yw \(x = 1\) and \(y = 2\).

Datrys hafaliadau llinol yn graffigol

Enghraifft

Datrysa鈥檙 hafaliadau cydamserol \(x + y = 5\) a \(y = x + 1\) gan ddefnyddio graffiau.

I ateb y cwestiwn hwn, yn gyntaf rhaid i ti lunio set o echelinau, gan wneud yn si诺r bod yna ddigon o le i blotio鈥檙 ddau graff.

Dalen o bapur graff gwag

Nawr llunia鈥檙 graffiau ar gyfer \(x + y = 5\) ac \(y = x + 1\).

I lunio鈥檙 graffiau hyn, defnyddia dabl gwerthoedd:

\(y = x + 1\)

\(x\)-10123
\(y\)01234
\(x\)
-1
0
1
2
3
\(y\)
0
1
2
3
4

\(x + y = 5\)

\(x\)-10123
\(y\)65432
\(x\)
-1
0
1
2
3
\(y\)
6
5
4
3
2

Plotia鈥檙 graffiau hyn ar yr echelinau a labela鈥檙 ddau graff.

Dau graff ar grid. Mae 1 wedi ei labelu ag y = x + 1, a鈥檙 llall wedi ei labelu 芒 x + y = 5. Mae鈥檙 2 graff yn croesi ar y pwynt croestoriad yn 2, 3

Y pwynt croestoriad yw (2, 3) sy鈥檔 golygu bod \(x = 2\) and \(y = 3\).

Datrys hafaliadau llinol a chwadratig yn graffigol - Uwch

Gallwn ddefnyddio graffiau hefyd i ddatrys hafaliadau cydamserol sy鈥檔 cynnwys hafaliadau cwadratig a llinol. Fel y gwelson ni wrth ddatrys yn algebraidd, fel arfer bydd yna ddau b芒r o atebion.

Enghraifft

Datrysa鈥檙 hafaliadau cydamserol \(y = x^2\) ac \(y = x + 2\).

\(y = x^2\)

\(x\)-3-2-10123
\(y\)9410149
\(x\)
-3
-2
-1
0
1
2
3
\(y\)
9
4
1
0
1
4
9

\(y = x + 2\)

\(x\)-10123
\(y\)12345
\(x\)
-1
0
1
2
3
\(y\)
1
2
3
4
5

Plotia鈥檙 graffiau ar yr echelinau ac edrycha am y pwyntiau croestoriad.

Dau graff ar grid. Mae 1 wedi ei labelu ag y = x + 2, a鈥檙 llall wedi ei labelu ag y = x wedi ei sgwario. Y ddau bwynt croestoriad yw 2, 4 ac -1, 1

Mae鈥檙 ddau bwynt croestoriad yn (2, 4) ac (-1, 1) felly mae \(x = 2\) ac \(y = 4\), a \(x = -1\) ac \(y = 1\).