成人快手

Defnyddio cyfyngiadau

Cyfyngiad ydy amod mae鈥檔 rhaid i ti ei ddefnyddio yn yr olygfa, er mwyn i ti gadw at set o reolau wrth wneud gwaith byrfyfyr. Dyma rai syniadau ar gyfer gweithio gyda chyfyngiadau wrth wneud gwaith byrfyfyr.

Gofod

Defnyddia鈥檙 cyfyngiadau gofodol canlynol wrth lwyfannu golygfa neu wneud gwaith byrfyfyr ar olygfa i weld beth fydd yn digwydd:

  • Gofod bychan iawn, ee lifft. Rhaid i gymeriadau ymddwyn yn arferol ond o fewn lleoliad bychan iawn.
  • Gofod eang, ee cadwyn o fynyddoedd uchel.

Ystyria sut y mae newid yn effeithio ar iaith y corff, t么n ac uchder y llais a鈥檙 rhyngweithio rhwng cymeriadau. Efallai fod yna rhywbeth sy鈥檔 gweithio鈥檔 dda ac y gallet ei gynnwys yn dy ddarn dyfeisiedig.

Dau actor gyda breichiau wedi eu plygu, yn sefyll ochr yn ochr, a'r ddau yn wynebu allan tuag at y gynulleidfa

Cyfyngiadau llais/iaith

Mae鈥檙 ymarferiadau hyn yn werthfawr er mwyn gwneud i ti feddwl mwy am iaith a deialog. Weithiau mae cyfyngiadau yn gorfodi鈥檙 actor i ystyried ffyrdd newydd a gwell o bortreadu r么l benodol.

Drama鈥檙 Tri Gair

Mae hwn yn ymarfer ble mae鈥檙 actorion yn gwneud gwaith byrfyfyr ond dim ond tri gair y gallan nhw eu dweud ar y tro. Mae鈥檔 dda iawn ar gyfer archwilio hanfod golygfa ac mae鈥檔 gorfodi actorion i gydweithio a helpu ei gilydd, er enghraifft:

  • A: A ydy鈥檔 wir?
  • B: Beth yn wir?
  • A: Dy fod ti鈥
  • B: Mod i鈥檔 beth?
  • A: Allai ddim dweud鈥
  • B: Allan ag e
  • A: Wedi cael babi
  • B: Bachgen ydw i!
  • A: Wnaeth e frifo?

Deialog yn nhrefn yr wyddor

Y tro yma mae鈥檙 actorion yn cael defnyddio gymaint o eiriau ag y maen nhw ei eisiau ond mae鈥檔 rhaid i linellau鈥檙 ddeialog ddechrau gyda llythrennau olynol yr wyddor.

  • A fedri di ddweud wrtha i os oes yna fysus i鈥檙 Bala o fan 鈥榤a?
  • Bala, pam wyt ti eisiau mynd fan 鈥榥a?
  • Cadw hwn yn dawel ond dwi鈥檔 ceisio dianc, mae rhywun ar fy 么l i鈥
  • Choelia i ddim, ti鈥檔 tynnu coes.
  • Dwi ddim 鈥 dwi鈥檔 hollol o ddifri!
  • Ddylet ti fynd at yr heddlu鈥
  • Esgob, na! Arna i mae鈥檙 bai!
  • F鈥檈naid i, beth wyt ti wedi ei wneud?
  • Fforjio papurau deg punt鈥

Llinellau gorfodol

Mae pob actor yn cael darn o bapur yn cynnwys llinell neu ddwy ar hap a rhaid iddyn nhw eu defnyddio rhywle o fewn yr olygfa fyrfyfyr mewn cyd-destun sy鈥檔 gwneud synnwyr. Mae hyn yn gorfodi鈥檙 actorion i lywio鈥檙 cynnwys tuag at sgwrs lle bydd y llinell yn ffitio. Wrth gwrs, mae gan bob actor linell wahanol i鈥檞 chynnwys, felly gall fod yn ddoniol iawn:

  • Dyma鈥檙 foment y b没m yn aros amdani gydol fy mywyd
  • Rwy鈥檔 credu mod i鈥檔 gweld i芒r
  • Dduw mawr, ry鈥檔 ni鈥檔 gyd yn mynd i farw!

Gall y llinellau fod mor ddifrifol neu ddwl ag y byddi di鈥檔 dymuno.