Syniadau ar gyfer creu a datblygu cymeriadau
Os oes gen ti gymeriad eisoes, mae鈥檔 werth arbrofi gyda鈥檙 syniadau canlynol er mwyn ehangu dy wybodaeth a dy ddealltwriaeth o鈥檙 ffordd y byddai鈥檔 ymddwyn mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Trosglwyddo r么l
Arbrofa i weld sut mae cymeriadau yn ymateb mewn lleoliadau gwahanol. Cymer dy gymeriad a鈥檌 symud o鈥檌 amgylchedd arferol a gwneud gwaith byrfyfyr yn rhywle hollol wahanol. Gallet ti ddefnyddio os hudol Konstantin StanislavskiActor a chyfarwyddwr dylanwadol o Rwsia (1863-1938) a oedd yn credu y dylai perfformiadau theatrig fod mor realistig 芒 phosib. a gofyn 鈥楤eth os ....?' er mwyn ymchwilio i鈥檙 posibiliadau di-ben-draw y cymeriad a鈥檙 cynllun a chreu byd hollol ddychmygol. Dyma rai sefyllfaoedd posib:
- ar fws
- aelod o reithgor mewn llys
- mewn cyfweliad teledu
- y dyfodol
- yn sownd mewn lifft
- plentyn mewn meithrinfa
Mae modd i ti arbrofi gyda newid lleoliad neu wrth newid statws cymeriadau a rhoi swydd ddibwys neu un hynod bwysig iddyn nhw ei gwneud. Galli di fynd yn 么l neu ymlaen mewn amser a dychmygu sut roedden nhw鈥檔 ymddwyn fel plentyn neu fel person h欧n. Beth petaet ti鈥檔 taflu tri chymeriad hollol wahanol, megis hen wraig, clown a pheilot at ei gilydd mewn senarioAmgylchiadau neilltuol sy'n gysylltiedig 芒 lle, amser a chymeriad/au arbennig. ddiddorol?
Nawr, lle fyddet ti鈥檔 eu rhoi nhw?
Beth ydy cymhelliad y cymeriadau neu beth maen nhw ei eisiau? Efallai fod yr hen wraig eisiau achub y byd rhag ymosodiad gan greaduriaid o鈥檙 gofod鈥
Sut fyddai dy gymeriad yn ymddwyn petai鈥檔:
- ennill y loteri?
- cyfarfod 芒鈥檙 frenhines?
- cael gwybod mai chwe mis yn unig sydd ganddo/ganddi i fyw?
- dod yn Brif Weinidog?