成人快手

Theatr GorfforolDefnyddio Theatr Gorfforol yn dy gynhyrchiad

Mae Theatr Gorfforol yn dangos nad oes rhaid defnyddio geiriau i fynegi syniadau. Mae'n defnyddio technegau megis symudiadau, meim a dawns, a gall ymchwilio i faterion cymdeithasol a diwylliannol.

Part of DramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Defnyddio Theatr Gorfforol yn dy gynhyrchiad

Mae modd defnyddio Theatr Gorfforol yn y ffordd y cafodd ei defnyddio gan y cyfarwyddwr Steven Berkoff yn The Trial, i osod yr olygfa, boed ar gyfer dodrefn mewn ystafell neu stryd brysur. Mae defnyddio pobl i greu popeth ar y llwyfan yn caniat谩u cyfleoedd gwych ar gyfer effaith ddynamig. Yn The Trial, y cast, fframiau syml iawn a rhaff ar ardal berfformio wag oedd y cyfan a ddefnyddiwyd i greu'r llwyfannu. Byddai llwyfan gwag yn ddelfrydol i rai perfformiadau Theatr Gorfforol.

Dychmyga gynhyrchiad o ddrama Shakespeare, Macbeth. Fel arfer rydyn ni'n clywed am y frwydr ar ddechrau'r ddrama. Sut fyddai gweld yr ymladd yn effeithio ar y cynhyrchiad? Gallai hyn fod mewn dull arddulliedig, gyda鈥檙 gwrachod yn amlwg yn rheoli'r digwyddiadau fel pe baen nhw'n bypedwyr. Canmolwyd cynhyrchiad Kenneth Branagh o Macbeth yn 2013 am ei natur gorfforol, yn enwedig yn ystod golygfa'r frwydr ar ddechrau'r ddrama.

Y gwrachod o gynhyrchiad Kenneth Branagh o Macbeth, 2013
Image caption,
Y gwrachod o gynhyrchiad Kenneth Branagh o Macbeth, 2013 LLUN: Johan Persson/ArenaPAL

Cyfuno arddulliau drama

Mae Theatr Gorfforol yn canolbwyntio ar symud ond gall fod ar wah芒n i鈥檙 gair llafar neu uno 芒'r gair llafar i ehangu ac ymchwilio i鈥檞 ystyr. Gall fod yn neu gynnwys elfennau sylweddol y tu hwnt i sgript wedi ei argraffu. Gallai'r elfennau hyn fod yn ffurfiau celfyddydol eraill megis cerddoriaeth, dawns, defnydd o gyfryngau neu ddelweddau gweledol. Rwyt ti鈥檔 gallu defnyddio propiau sy鈥檔 gweddu i natur y cynhyrchiad hefyd. Mae gwisgo mwgwd yn ffordd dda o ymarfer technegau Theatr Gorfforol oherwydd rhaid i ti weithio dy gorff yn effeithiol i wneud yn iawn am y diffyg mynegiant pan fydd dy wyneb wedi ei guddio. Felly gallet ti ddefnyddio cyfuniad o elfennau gyda鈥檙 sgript. Beth am estyn allan at y gynulleidfa mewn ffordd sy'n herio'r bedwaredd wal, gan wneud y gynulleidfa yn gyd-gynllwyniwr yn y ddrama? Dydy hi ddim yn anarferol i Theatr Gorfforol annog neu fynnu cyfranogiad gan y gynulleidfa.

Roedd cynhyrchiad amlieithog y Theatr Genedlaethol, Rhwydo/Vangst, yn ddarn o Theatr Gorfforol wahanol i'r arfer. Roedd y cynhyrchiad yn defnyddio cyfraniadau gan aelodau o'r cyhoedd a oedd wedi nodi eu gobeithion a'u hofnau a'u 'postio' i flwch cyn y perfformiad. Yna roedd y cynnwys hwn yn cael ei drosglwyddo i recordiad sain a gafodd ei chwarae wrth i'r ddau berfformiwr, yr artist meim Anne van Balen a'r dawnsiwr, Fabi谩n Santarciel de la Quintana, roi perfformiad mud yn y blwch. Roedd y cyfle i gyfrannu'n uniongyrchol at y cynhyrchiad yn cyffroi cynulleidfaoedd mewn nifer o wledydd.

Actor yn eistedd tu 么l i ddesg a'r golau yn creu cysgod ar y llawr ar gyfer perfformiad Rhwydo, Theatr Genedlaethol Cymru a Roos van Geffen
Image caption,
Perfformiad o Rhwydo/Vangst, Theatr Genedlaethol Cymru a Roos van Geffen, 2013 LLUN: Theatr Genedlaethol Cymru

Related links