成人快手

Theatr GorfforolNatur Theatr Gorfforol

Mae Theatr Gorfforol yn dangos nad oes rhaid defnyddio geiriau i fynegi syniadau. Mae'n defnyddio technegau megis symudiadau, meim a dawns, a gall ymchwilio i faterion cymdeithasol a diwylliannol.

Part of DramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Natur Theatr Gorfforol

Ar ei symlaf, gallet ti ddiffinio Theatr Gorfforol fel math o theatr sy'n rhoi pwyslais ar symud yn hytrach na deialog, ond mae nifer fawr iawn o amrywiadau. Mae'r yn cwmpasu amrywiaeth eang iawn o waith. Ond yn ei hanfod mae Theatr Gorfforol yn golygu unrhyw beth sy'n gosod y corff dynol yng nghanol y broses o adrodd stori. O ganlyniad mae'n aml yn ei harddull, gan ddefnyddio symudiadau mewn modd a . Gan fynegi syniadau drwy goreograffu symudiadau, ychydig iawn o ddeialog mae perfformwyr o'r fath yn ei defnyddio, os o gwbl.

Gellir dadlau bod DV8 ymhlith y prif Theatr Gorfforol fel ffurf 'lawn' ar gelfyddyd. Mae鈥檔 canolbwyntio ar edrych ar y potensial dramatig y gellir ei ddatgloi o symudiadau. Mae eu gwaith yn aml yn cael ei ddisgrifio fel gwaith sydd ar groesffordd lle mae dawns, sain a drama yn cyfarfod.

Yng nghynhyrchiad DV8, Can We Talk About This?, defnyddiodd y cyfarwyddwr a'r perfformwyr Theatr Gorfforol i fynegi materion gwleidyddol a chymdeithasol hynod o gymhleth ac anodd eu trin. Roedd prif thema'r cynhyrchiad yn edrych ar , ac filwriaethus. Roedd y cyfuniad o eiriau a gwaith corfforol yn mynegi'r hyn sydd ambell waith yn anodd ei roi mewn geiriau'n unig. Mae DV8 yn adnabyddus am ddefnyddio Theatr Gorfforol i ymchwilio i agweddau cymhleth ar gysylltiadau a pherthynas ddynol a materion cymdeithasol neu ddiwylliannol.

Yr actorion Hannes Langolf a Christina May mewn golygfa o'r sioe Can We Talk About This?, 2013
Image caption,
Hannes Langolf a Christina May yn Can We Talk About This? gan DV8 Physical Theatre, 2013 LLUN: DV8/Matt Nettheim
Yr actor Lee Davern mewn golygfa o'r sioe Can We Talk About This?, 2013
Image caption,
Lee Davern yn Can We Talk About This? gan DV8 Physical Theatre, 2013 LLUN: DV8/Matt Nettheim

Related links