Mae'n bosib defnyddio gwaith byrfyfyr ar y pryd ac wedi ei ymarfer i greu cynnwys newydd. Galli di ymchwilio i them芒u mewn drama ac arbrofi gydag arddulliau wrth greu sgriptiau a chymeriadau newydd.
Rho gynnig ar fyrfyfyrio mewn arddull osodedig neu genreSteil neu gategori o gerddoriaeth, celf neu lenyddiaeth. sy鈥檔 wahanol iawn i dy sgript wreiddiol neu鈥檙 darn dyfeisiedig. Gall hyn ryddhau鈥檙 gwaith a chynhyrchu syniadau newydd ar gyfer perfformio. Dyma rai enghreifftiau o鈥檙 genres y gallet ti eu hystyried:
arswyd gothig
opera sebon, ee yn arddull Pobol y Cwm
opera fawreddog
Saunders Lewis (clasurol gyda Chymraeg llenyddol)
dawns gyfoes / ddeongliadol
teledu plant
pantomeim (gyda chyfranogiad y gynulleidfa)
Neu gallet ti roi cynnig ar berfformio yn 么l arddull ymarferwrRhywun sy'n arfer neu sydd wedi ysgrifennu am elfennau theatrig ac sydd 芒 ffurf theatrig ddiffiniadwy yn perthyn i'w theatr. theatr sefydledig, megis Bertolt Brecht neu Konstantin Stanislavski.