成人快手

Sgript a gwaith byrfyfyrDefnyddio them芒u o鈥檙 ddrama

Mae'n bosib defnyddio gwaith byrfyfyr ar y pryd ac wedi ei ymarfer i greu cynnwys newydd. Galli di ymchwilio i them芒u mewn drama ac arbrofi gydag arddulliau wrth greu sgriptiau a chymeriadau newydd.

Part of DramaGwaith sgript

Defnyddio them芒u o鈥檙 ddrama

Mwnci ar D芒n
by Sera Moore Williams

Shell

Wedes di bo ti isie teulu!

Mwnci

Ond wi ddim isie bod y tad ydw i? Ni鈥檔 rhy ifanc Shell.

Shell

Beth am y babi?

Mwnci

Wi鈥檔 seino lan. Wi鈥檔 neud e i fi. Gwna di鈥檙 peth iawn i ti.

Shell

Beth?

Mwnci

Ffonia rhywle. I dunno. Sorta fe. Tisie bywyd, yeah?

Ieuenctid, dianc o gyfrifoldeb a delio 芒 chanlyniad gweithgareddau ydy鈥檙 them芒u yn y darn uchod. Gallet ti wneud gwaith byrfyfyr ar yr elfennau canlynol ar y them芒u hyn:

  • dwy wraig ifanc yn sgwrsio 芒鈥檌 gilydd am y beichiogrwydd digroeso
  • dau ddyn ifanc yn trafod y beichiogrwydd digroeso ac ateb posibl i鈥檙 broblem
  • golygfa fwlio ble caiff y ferch feichiog ei gwatwar gan ei chyfoedion
  • golygfa gyda gweithiwr cymdeithasol neu riant a鈥檙 ddau berson ifanc yn wynebu鈥檙 beichiogrwydd digroeso

Dulliau byrfyfyr i鈥檞 defnyddio wrth ymarfer

Hyd yn oed os byddi di鈥檔 defnyddio sgript, gall gwaith byrfyfyr fod yn ffordd wych o ddarganfod pethau amdani nad oeddet ti wedi eu sylweddoli o鈥檙 blaen. Mae鈥檔 ffordd ragorol hefyd o roi rhyddid i actorion neu roi bywyd newydd i olygfa ddiflas. Rho gynnig ar rai o鈥檙 technegau hyn:

Tynnu cymeriadau allan o鈥檜 cyd-destun

Beth sy鈥檔 digwydd os byddi di鈥檔 gafael yn y cymeriadau a鈥檜 gosod mewn lleoliad neu amser gwahanol? Rho gynnig ar waith byrfyfyr mewn lleoliad rhyfedd megis llong ofod neu long danfor. Os hoffet ti fwy o syniadau rho gip ar Strategaethau ymchwilio.

Defnyddio barddoniaeth

Rho gynnig ar fyrfyfyrio drwy siarad mewn rhythm neu odl. Gall taflu p锚l o actor i actor i newid cyflymder helpu gyda hyn. Beth am ddefnyddio cwpledi sy鈥檔 odli? Mae hyn yn gorfodi鈥檙 actor i feddwl mewn ffordd wahanol a defnyddio geiriau na fydden nhw鈥檔 eu hystyried fel arfer.