成人快手

Sgript a gwaith byrfyfyrPwysigrwydd gwaith byrfyfyr

Mae'n bosib defnyddio gwaith byrfyfyr ar y pryd ac wedi ei ymarfer i greu cynnwys newydd. Galli di ymchwilio i them芒u mewn drama ac arbrofi gydag arddulliau wrth greu sgriptiau a chymeriadau newydd.

Part of DramaGwaith sgript

Pwysigrwydd gwaith byrfyfyr

Mae Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, yn credu鈥檔 gryf yng ngwerth gwaith byrfyfyr o sgript:

Mae gwaith byrfyfyr yn hanfodol wrth ymarfer ar gyfer cynhyrchiad theatr. Mae'n caniat谩u i'r actor edrych y tu hwnt i'r testun, gan agor i fyny bob math o bosibiliadau a dewisiadau annisgwyl a diddorol wrth ddehongli sgript a dod 芒 chymeriad yn fyw. Mae rhai actorion wrth eu bodd gyda gwaith byrfyfyr ond i eraill mae'n codi ofn dychrynllyd arnynt. Mae rhaglenni fel Whose line is it anyway? wedi rhoi enw drwg i waith byrfyfyr, oherwydd bod rhai bellach, yn anymwybodol, yn ceisio bod yn ddigrif wrth wneud gwaith byrfyfyr, ac mae hynny'n anffodus a dibwrpas (o safbwynt ymarfer ar gyfer llwyfannu drama). Y gyfrinach wrth wneud gwaith byrfyfyr yw cofio mai modd o ymchwilio, deffro'r dychymyg a rhyddhau'r actor o hualau'r testun yw gwaith byrfyfyr. Ymarfer yw hyn, fel ymarfer 'scales' i bianydd, sef rhywbeth y tu hwnt i ofynion uniongyrchol y testun (neu'r ddrama), ond sy'n caniat谩u i'r actor wedyn fod yn fwy dewr a dychmygus wrth fynd i'r afael 芒'r testun.
Arwel Gruffydd
Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, yn gweithio gydag actorion
Image caption,
Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, yn gweithio gydag actorion LLUN: Theatr Genedlaethol Cymru/Warren Orchard