˿

Arwynebedd arwyneb a chyfaintSffêr – haen uwch yn unig

Gallwn gyfrifo cyfaint siapiau 3D er mwyn canfod eu cynhwysedd neu faint o ofod maen nhw’n ei lenwi. Gallwn hefyd ganfod yr arwynebedd arwyneb, sy’n nodi cyfanswm arwynebedd pob un o’u hwynebau.

Part of Mathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Sffêr – haen uwch yn unig

Mae sffêr yn ffigwr solet perffaith grwn. Mae pob pwynt ar arwyneb y siâp yr un pellter i ffwrdd o’r canol – rydyn ni’n galw’r pellter hwn yn radiws.

Byddi’n cael y fformiwla ar gyfer cyfaint ac arwynebedd arwyneb sffêr yn yr arholiad, felly ni fydd angen i ti gofio’r rhain.

(ٱٵڲԳٴʲڴê=ʰڰ43پ辱پٱٵ3)

\(\text{Arwynebedd~arwyneb~sffêr}~=~\text{4}\times\pi\times \text{r}^{2}\)

Y diamedr yw’r pellter o un pwynt ar yr arwyneb at un arall, drwy’r canol. Os wyt ti'n gwybod beth yw'r diamedr, rhaid i ti rannu â 2 i ganfod y radiws cyn y gelli di gyfrifo’r cyfaint neu’r arwynebedd arwyneb.

Enghraifft

Mae tanc pysgod sfferig sydd â diamedr o 40 cm yn hanner llawn o ddŵr.

Powlen bysgod 40 cm o ddiamedr

1. Cyfrifa gyfaint y dŵr.

2. Mae’r dŵr yn cael ei symud i danc sfferig newydd fel bod y dŵr yn llenwi’r tanc yn gyfan gwbl. Cyfrifa arwynebedd arwyneb y tanc newydd.

Ateb

1. Cyfrifa gyfaint y tanc:

Diamedr = 40 cm felly mae’r radiws yn 40 ÷ 2 = 20 cm

Dylet amnewid hwn yn y fformiwla ar gyfer cyfaint sffêr:

Cyfaint = \(\frac{4}{3}\times\pi\times\text{r}^{3}\) = \(\frac{4}{3}\times\pi\times~\) 203 = 33,510.32164 cm3

Mae’r tanc yn hanner llawn felly mae rhannu â 2 yn cyfrifo cyfaint y dŵr:

33,510.32164 ÷ 2 = 16,755.16082 cm3

2. Cyfrifa radiws y tanc newydd, ac yna canfydda’r arwynebedd arwyneb:

Cyfaint = \(\frac{4}{3}\times\pi\times\text{r}^{3}\) = 16,755.16082

I ganfod \(\text{r}\) rhaid i ni ad-drefnu’r fformiwla:

Rhanna’r ddwy ochr â \(\frac{4}{3}~\pi\):

\({16,755.16082}\div\frac{4}{3}~\pi~=~\text{r}^{3}\)

4,000 = \(\text{r}^{3}\)

Yna cymera drydydd isradd y ddwy ochr:

\(\sqrt[3]{4,000}~=~\text{r}\)

\(\text{r} ~\) = 15.87401052 cm

Gallwn nawr gyfrifo’r arwynebedd arwyneb

\(\text{4} ~ \pi ~ \text{r}^{2} = {4} \times \pi \times {15.87401052^2}~\) = 3166.526972 cm2

Arwynebedd arwyneb = 3,166.53 cm2 (i ddau le degol)

Question

Mae radiws pêl bandiau rwber yn 6 cm.

Dw i’n ychwanegu mwy o fandiau rwber ac mae’r cyfaint yn cynyddu 100 cm3. Faint yn fwy yw’r radiws nawr?

Rho dy ateb i ddau le degol.

Question

Mae diamedr peth dal minlliw yn 12 mm a’i uchder yn 52 mm. Mae’n cynnwys hemisffer ar dop tiwb silindrog. Cyfrifa arwynebedd arwyneb y peth dal minlliw.

Minlliw 52 mm o uchder a 12 mm o led

Hemisffer

Mae hemisffer union cymaint â hanner sffêr. Wrth gyfrifo’r cyfaint, byddai’n rhaid i ti haneru cyfaint sffêr.

Wrth ganfod yr arwynebedd arwyneb, yn ogystal â haneru arwynebedd arwyneb sffêr, bydd yn rhaid i ti hefyd gyfrifo arwynebedd y cylch ar y gwaelod.

Question

Cyfrifa arwynebedd arwyneb hemisffer sydd â diamedr o 8 m.

Dôm 8 m o ddiamedr