˿

Arwynebedd arwyneb a chyfaintPrismau – yr haenau canolradd ac uwch

Gallwn gyfrifo cyfaint siapiau 3D er mwyn canfod eu cynhwysedd neu faint o ofod maen nhw’n ei lenwi. Gallwn hefyd ganfod yr arwynebedd arwyneb, sy’n nodi cyfanswm arwynebedd pob un o’u hwynebau.

Part of Mathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Prismau – yr haenau canolradd ac uwch

Mae prism yn siâp 3D sydd â thrawstoriad cyson. Mae hyn yn golygu bod dau ben y solet yr un siâp. Os byddi’n torri yn unrhyw fan ar hyd y prism, yn baralel i’r ddau ben hyn, bydd y siâp bob amser yr un fath.

Byddi’n cael y fformiwla hon yn yr arholiad.

I gyfrifo arwynebedd y trawstoriad, bydd yn rhaid i ti fod yn gyfarwydd â chyfrifo arwynebedd siapiau 2D.

Question

Cyfrifa gyfaint y tlws hwn, pan fo arwynebedd y trawstoriad yn 55 cm2 a’r trwch yn 12 cm.

Tlws siâp seren 3D

Question

Mae radiws tun o gawl yn 3.75 cm a’i uchder yn 11 cm.

Cyfrifa gyfaint y cawl yn y tun. Rho dy ateb i’r mililitr agosaf (1 cm3 = 1 ml).

Yn y cwestiwn hwn, gelli anwybyddu trwch y tun.

Tun o gawl tomato 11 cm o uchder a radiws 3.75 cm

Er mwyn cael gwell syniad o arwynebedd arwyneb prism, gallwn feddwl am rwyd y siâp.

Mae yma ddau wyneb ac un rhan siâp petryal, sy’n mesur hyd y prism wrth berimedr y trawstoriad.

Rhwyd prism ag ochrau wedi'u labelu fel hyd a pherimedr

I gyfrifo arwynebedd arwyneb prism, defnyddia’r fformiwla ganlynol:

\(\text{2}\times\text{arwynebedd~y~trawstoriad }~+~\text{(perimedr~y~trawstoriad}\times\text{hyd)}\)

Question

Mae Juan yn cymharu faint o bapur sydd ei angen arno i lapio pob un o’i anrhegion Nadolig.

Cyfrifa arwynebedd arwyneb y prism trionglog hafalochrog hwn:

Prism triongl yn mesur 12 cm x 5 cm x 4.3 cm

Question

Mae gwaelod ac arwyneb crwm tun yn mynd i gael eu gorchuddio i greu pot pensiliau. Cyfrifa’r arwynebedd fydd yn cael ei orchuddio wrth ddefnyddio silindr sydd â radiws o 3.75 cm ac uchder o 11 cm.