成人快手

Trefn gweithreduY rheol CIRhLlAT

Wrth weithio sym ag iddi fwy nag un weithred, ee 8 + 2 脳 3, dilyna reol CIRhLlAT. Heb y rheol hon gallet ti gael gwahanol atebion, felly mae鈥檔 bwysig cael trefn y gweithredu鈥檔 gywir.

Part of MathemategGweithrediadau (cyfrifiadau a symiau)

Y rheol CIRhLlAT

Mae trefn wedi ei chytuno ar gyfer gweithredu mewn Mathemateg, sef CIRhLlAT.

Mae'r termau hyn i gyd yn weddol amlwg heblaw am 'Indecsau' sy'n golygu'n syml, pwerau, ee \({2}^{3}\) neu \({4}^{2}\) ayyb.

Felly dyma'r drefn y dylet ti ei dilyn wrth wneud dy gyfrifiadau:

  • Cromfachau
  • Indecsau
  • Rhannu a Lluosi. Dechreua ar y chwith a gwna nhw yn y drefn rwyt ti'n dod atyn nhw.
  • Adio a Thynnu. Pan fydd dim ond adio a thynnu ar 么l i'w wneud yn y sym, gwna hynny yn y drefn rwyt ti'n dod atyn nhw, gan ddechrau o ochr chwith y sym a gweithio i'r dde.

Enghraifft 1

Beth ydy \({4} + {2}\times{3}\)?

Os wyt ti鈥檔 cyfrifo鈥檙 rhan \({4} + {2}\) gyntaf rwyt ti鈥檔 cael:

\({4} + {2}\times{3} = {6}\times{3} = {18}\)

Os wyt ti鈥檔 cyfrifo鈥檙 rhan \({2}\times{3}\) gyntaf rwyt ti鈥檔 cael:

\({4} + {2}\times{3} = {4} + {6} = {10}\)

Dyma ddau ateb gwahanol iawn, ond dim ond un sy鈥檔 gywir.

Yn CIRhLlAT, mae lluosi鈥檔 dod o flaen adio, felly lluosa \({2}\) 芒 \({3}\) yn gyntaf.

\({4} + {2}\times{3} = {4} + {6} = {10}\), felly dyma鈥檙 ateb cywir.

Enghraifft 2

Beth ydy \({9} - {4} + {3}\)?

Dim ond adio a thynnu sydd yn y sym hon. Felly cyfrifa nhw o鈥檙 chwith i鈥檙 dde.

\({9} - {4} + {3} = {5} + {3} = {8}\)