˿

Llunio a defnyddio tangiadau – Uwch yn unigArwynebedd o dan graffiau llinell syth

Mae gallu llunio a defnyddio tangiadau yn sgiliau defnyddiol er mwyn cwblhau gwaith geometrig ar gylchoedd a graddiant cromliniau, yn ogystal â chyfrifo’r arwynebedd o dan graffiau.

Part of Mathemateg RhifeddAlgebra

Arwynebedd o dan graffiau llinell syth

I gyfrifo’r arwynebedd o dan graffiau, mae’n hanfodol dy fod yn cofio dy fformiwlâu. Yn benodol, y rhai y byddi di eu hangen yw arwynebedd trionglau, arwynebedd petryal ac arwynebedd trapesiwm.

Question

Cyfrifa’r arwynebedd o dan y graff:

Graff llinell syth. Mae'r echelin x wedi'i rifo o 0 i 400, mae'r echelin y wedi'i rifo o 0 i 2000

Arwynebedd o dan graffiau cyflymder-amser

Yn benodol, i gyfrifo’r pellter a deithiwyd yn ystod y daith bydd yn rhaid i ti ganfod yr arwynebedd o dan y graff Cyflymder-Amser.

Os wyt ti eisiau canfod y pellter hyd at amser penodol yn unig, rwyt yn canfod yr arwynebedd o dan y graff hyd at yr amser hwnnw.

Graff pellter amser. Mae gan yr echelin x label 'amser' ac mae gan yr echelin y label 'cyflymder'. Mae llinell goch yn cynrychioli'r daith. Mae hon wedi'i rhannu yn 3 cham 'A', 'B', a 'C'

Mae beiciwr yn gadael ei dŷ ac yn cyflymu’n unffurf nes ei fod yn cyrraedd cyflymder o 8 m/s, yna mae’n teithio ar gyflymder cyson nes ei fod yn sylweddoli ei fod wedi anghofio ei arian felly mae’n arafu nes ei fod yn llonydd. Canfydda’r pellter a deithiwyd pan fo:

  • yn cyflymu

Y rhan lle mae’r llethr yn mynd tuag i fyny yw pan fo’r beiciwr yn cyflymu. Mae angen i ni ganfod arwynebedd y triongl sy’n gorffen yn 4s.

\(Arwynebedd = \frac {1} {2} \times {b} \times {h}\)

\(Arwynebedd = \frac {1} {2} \times {4} \times {8}\)

\(Arwynebedd = {16}\)

\(Pellter = {16}~{m}\)

  • yn teithio ar gyflymder cyson

Mae’r beiciwr yn teithio ar gyflymder cyson rhwng 4 a 7 eiliad. Os edrychwn ni ar y siâp o dan y graff rhwng yr amseroedd hyn, mae’n betryal.

\(Arwynebedd = {l} \times {w}\)

\(Arwynebedd = {3} \times {8}\)

\(Arwynebedd = {24}\)

\(Pellter = {24}~{m}\)

  • yn arafu

Mae’r beiciwr yn arafu yn rhan olaf ei daith, sydd eto yn ffurfio triongl.

\(Arwynebedd = \frac {1} {2} \times {b} \times {h}\)

\(Arwynebedd = \frac {1} {2} \times {3} \times {8}\)

\(Arwynebedd = {12}\)

\(Pellter = {12}~{m}\)

Pe bai’r cwestiwn yn gofyn i ni ganfod y pellter a deithiwyd yn ystod y daith gyfan, mae dau ddull y gallwn eu defnyddio.

Un ai cyfanswm y pellteroedd ym mhob rhan o’r daith.

Cyfanswm y pellter = 16 + 24 + 12 = 52 m

Yn yr achos hwn, fodd bynnag, mae’r graff cyfan ar siâp trapesiwm. Felly gallen ni gyfrifo arwynebedd y trapesiwm.

\(A = \frac {1} {2} ({a}~+~{b}){h}\)

\(A = \frac {1} {2} ({10}~+~{3}){8}\)

\(A = {52}\)

Cyfanswm y pellter = 52 m

More guides on this topic