Ffordd fwy cywir o amcangyfrif tebygolrwydd
Er mwyn cael amcangyfrif mwy cywir o鈥檙 tebygolrwydd, byddai鈥檔 rhaid i ni edrych ar nifer fwy o dreialon.
Enghraifft
Beth am i ni ddychmygu bod gennyn ni fag sy鈥檔 cynnwys dau fath gwahanol o losin ond nid ydyn ni鈥檔 gwybod faint o bob losin sydd ynddo.
Os bydden ni鈥檔 cymryd losinen o鈥檙 bag 10 o weithiau - gan roi鈥檙 losinen yn 么l yn y bag bob tro ar 么l edrych arni - a鈥檔 bod yn cael losinen goch 4 gwaith allan o 10, yna鈥檙 amlder cymharol fyddai \(\frac{4}{10}\). Fe fydden ni鈥檔 amcangyfrif mai鈥檙 tebygolrwydd o gael losin coch oedd \(\frac{4}{10}\) neu 0.4.
Pe baen ni鈥檔 gwneud hyn 10 o weithiau eto, ac yn cael 1 losinen goch yn unig, gallen ni gyfuno ein canlyniadau i gael amlder cymharol newydd, sef \(\frac{5}{20}\) ac felly byddai amcangyfrif newydd y tebygolrwydd o gael losin coch yn \(\frac{5}{20}\) neu 0.25.
Pe baen ni鈥檔 edrych y tu mewn i鈥檙 bag, bydden ni鈥檔 gweld mai鈥檙 gwir debygolrwydd yw \(\frac{3}{10}\) neu 0.3 gan fod yna 3 losinen goch allan o gyfanswm o 10 losin, felly nid oedd ein hamcangyfrif yn bell ohoni.
Wrth ddefnyddio amlder cymharol i amcangyfrif tebygolrwydd, mae鈥檔 bwysig i ni nodi po fwyaf yw nifer y treialon, y mwyaf cywir fydd yr amcangyfrif.
Pe baen ni鈥檔 parhau i gymryd losin allan o鈥檙 bag mewn setiau o 10, ac yn plotio graff o鈥檔 canlyniadau, gallen ni ddisgwyl gweld rhywbeth sy鈥檔 edrych fel hyn:
Dyma sut rydyn ni鈥檔 defnyddio graff i gynrychioli amlder cymharol a nifer y treialon. Wrth i nifer y treialon gynyddu, dylai sefydlogrwydd y graff wella hefyd.