Y system cylchrediad gwaed mewn bodau dynolPlatennau
Mae鈥檔 hanfodol i iechyd bod y system cylchrediad yn gweithio鈥檔 iawn. Mae gwaed yn cludo sylweddau o gwmpas y corff ac yn cael gwared ar wastraff gwenwynig. Mae hefyd yn amddiffyn rhag clefydau.
Os ydy鈥檙 croen yn cael ei dorri, mae鈥檔 rhaid cau鈥檙 clwyf i atal colli gwaed ac i pathogenMicro-organeb sy鈥檔 achosi clefyd. gyrraedd y corff. Bydd crachen yn ffurfio er mwyn cyflawni hynny.
Mae gwaed yn cynnwys darnau bach iawn o gelloedd, sef y platennau. Mae鈥檙 platennau hyn yn cyfrannu at geulo鈥檙 gwaed a ffurfio crachen.
Ffurfio crachen
Pan mae croen yn cael ei glwyfo, mae platennau yn gallu:
rhyddhau cemegau sy鈥檔 achosi i broteinau hydawdd ffurfio rhwyll o ffibrau anhydawddMethu hydoddi mewn hydoddydd penodol. Er enghraifft, mae tywod yn anhydawdd mewn d诺r. ar draws y clwyf
glynu gyda鈥檌 gilydd i ffurfio clystyrau sy鈥檔 cael eu dal yn y rhwyll
Mae celloedd coch y gwaed hefyd yn cael eu dal yn y rhwyll ffibrin, gan greu tolchen. Mae hyn yn datblygu yn grachen, sy鈥檔 amddiffyn y clwyf wrth iddo wella.
Plasma
Hylif lliw gwellt yw plasma gwaedRhan hylif y gwaed sy鈥檔 cynnwys pethau defnyddiol megis glwcos, asidau amino, mwynau, fitaminau (maetholion) a hormonau, yn ogystal 芒 deunydd gwastraff fel wrea., a dyma beth yw ychydig dros hanner cyfaint gwaed. Mae gan y plasma lawer o swyddogaethau:
cludo carbon deuocsid o gelloedd sy鈥檔 resbiradu i鈥檙 ysgyfaint