成人快手

Tebygolrwydd pellach - Canolradd ac UwchDiagramau cangen a thebygolrwydd amodol

Mae deall tebygolrwydd yn hanfodol mewn nifer o ddiwydiannau, megis y proffesiwn meddygol a鈥檙 byd ariannol. Dysga am y rheolau AC/NEU, diagramau cangen a samplu heb amnewid.

Part of MathemategYstadegau

Diagramau cangen a thebygolrwydd amodol

Pan fo gennyn ni sefyllfa lle rydyn ni鈥檔 ystyried nifer o ddigwyddiadau, mae鈥檔 help i ni gael ffordd o鈥檌 chynrychioli鈥檔 weledol. Mae diagramau cangen yn ddull gweledol o gynrychioli canlyniadau digwyddiadau.

Enghraifft un

Mae gan Robin 2 fag. Mae bag A yn cynnwys 7 p锚l, ac mae 3 o鈥檙 rhain yn goch a 4 yn las. Mae bag B yn cynnwys 8 p锚l ac mae 5 o鈥檙 rhain yn goch a 3 yn las.

Mae Robin yn mynd i dynnu p锚l o bob bag, a hoffai wybod beth yw鈥檙 holl ganlyniadau posib felly mae鈥檔 llunio diagram cangen:

Diagram cangen yn dangos y canlyniadau posib ar gyfer Bag A a Bag B

Sylwa fod yna ddau bosibilrwydd ar gyfer bag A gall naill ai p锚l goch neu b锚l las gael ei dewis ac mae Robin wedi rhoi tebygolrwydd y ddau ddewis ar y diagram.

Mae yna ddau bosibilrwydd ar gyfer bag B hefyd 鈥 mae鈥檙 rhain wedi eu hysgrifennu ddwywaith, unwaith ar gyfer dau ganlyniad posib y dewis cyntaf.

Gallwn ddewis dilyn sawl llwybr gwahanol drwy鈥檙 diagram, gan ddibynnu ar ba ganlyniadau mae gennyn ni ddiddordeb ynddyn nhw.

Os hoffen ni wybod y tebygolrwydd y bydd y ddwy b锚l yn goch, rydyn ni鈥檔 dilyn y llwybr sy鈥檔 pasio鈥檙 \(\frac{3}{7}\) a鈥檙 \(\frac{5}{8}\). Gallwn ddefnyddio鈥檙 rheol AC i gyfrifo鈥檙 tebygolrwydd y bydd hyn yn digwydd:

P(C+C) = P(C) 脳 P(C) = \(\frac{3}{7}\) 脳 \(\frac{5}{8}\) = \(\frac{15}{56}\)

Os ydyn ni eisiau coch yn gyntaf, yna glas, P(C+G) = \(\frac{3}{7} \times \frac{3}{8} = \frac{9}{56}\)

Os ydyn ni eisiau glas yn gyntaf, ac yna coch, P(G+C) = \(\frac{4}{7} \times \frac{5}{8} = \frac{20}{56}\)

Os ydyn ni eisiau glas yn gyntaf, ac yna glas, P(G+G) = \(\frac{4}{7} \times \frac{3}{8} = \frac{12}{56}\)

Beth yw鈥檙 tebygolrwydd y bydd Robin yn dewis un b锚l las ac un b锚l goch?

Ateb

Mae yna ddwy ffordd i ddewis 1 las ac 1 goch. Mae P(C+G) neu P(G+C) yn bodloni鈥檙 amod. Gallwn ddefnyddio鈥檙 rheol NEU i gyfrifo鈥檙 tebygolrwydd:

P(1 goch ac 1 las) = \(\frac{9}{56} + \frac{20}{56} = \frac{29}{56}\)

Yn aml, rydyn ni鈥檔 defnyddio diagramau cangen i fodelu tebygolrwydd amodol. Yma mae yna fwy nag un canlyniad ac nid ydyn nhw鈥檔 annibynnol 鈥 hynny yw, mae鈥檙 canlyniad cyntaf yn effeithio ar debygolrwydd yr ail.

Enghraifft dau

Mae Rachel yn mynd i ddewis pelen fach allan o fag, yna dewis ail belen fach o鈥檙 un bag. Nid yw鈥檔 mynd i roi鈥檙 belen fach yn 么l yn y bag ar 么l cymryd 1 allan. Ym mag Rachel, mae yna 4 pelen fach goch a 5 pelen fach werdd.

Diagram cangen yn dangos y tebygolrwydd ar gyfer tynnu鈥檙 belen fach gyntaf a鈥檙 ail

Sylwa sut mae鈥檙 tebygolrwydd yn wahanol ar gyfer y dewis cyntaf a鈥檙 ail. Os mai pelen fach goch yw鈥檙 dewis cyntaf, nawr mae yna un belen fach goch yn llai i鈥檞 dewis, felly mae鈥檙 tebygolrwydd o ddewis pelen fach werdd yn cynyddu ac mae鈥檙 tebygolrwydd o ddewis ail belen fach goch yn lleihau. Os mai pelen fach werdd sy鈥檔 cael ei dewis, mae鈥檙 tebygolrwydd o gael pelen fach werdd yr ail dro yn lleihau a鈥檙 tebygolrwydd o gael pelen fach goch yn cynyddu.

Question

Beth yw鈥檙 tebygolrwydd o ddewis pelen fach goch ac yna pelen fach werdd?

Question

Beth yw鈥檙 tebygolrwydd o gael 1 belen fach goch ac 1 belen fach werdd (yn unrhyw drefn)?