Arddull ysgrifennu a geirfa
Mae darllen adolygiadau beirniaid proffesiynol yn dangos bod cyfle i fod yn greadigol wrth ysgrifennu adolygiad. Mae modd cyfoethogi darn ffeithiol gyda geirfa dda, ansoddeiriau, ac o鈥檜 defnyddio鈥檔 ofalus, trosiadau a chyffelybiaethau. Mae ansoddeiriau鈥檔 bwysig am eu bod nhw鈥檔 dy helpu i fynegi dy farn bersonol yn effeithiol. Ond bydd yn ofalus nad ydy鈥檙 hyn rwyt ti鈥檔 ceisio鈥檌 ddweud yn cael ei golli yn dy ymdrech i fod yn awdur creadigol. Cadwa dy frawddegau鈥檔 fyr ac yn bwrpasol.
Mae鈥檙 beirniaid gorau鈥檔 mynegi eu barn yn glir ac yn ddifyr i鈥檞 darllenwyr fel mae鈥檙 adolygiad hwn o Y Gwyll yn ei ddangos:
Ceisia amrywio dy ddisgrifiadau a dy ansoddeiriau ym mhob adolygiad y byddi di鈥檔 ei ysgrifennu gan wrthsefyll y demtasiwn i fod yn fformwl盲ig. Mae rhywun yn si诺r o sylwi os byddi di鈥檔 torri corneli. Dyma rai termau defnyddiol i鈥檞 cofio wrth ysgrifennu.
1 of 4
Felly cofia:
- paid ag adrodd stori鈥檙 ddrama 鈥 mae rhoi鈥檙 cyd-destunGwybodaeth ychwanegol am destun sy鈥檔 ein helpu ni i'w ddeall; y digwyddiadau cefndirol sy'n helpu i egluro rhywbeth. yn ddigon
- gwna鈥檔 si诺r dy fod yn cyfeirio at amrywiaeth o gyfryngau ac elfennau drama
- cadwa dy ysgrifennu a dy frawddegau鈥檔 ysgafn - paid 芒 chrwydro nag ailadrodd dy hun
- mae modd i ti fod yn greadigol, ond cofia wneud dy bwyntiau鈥檔 glir
- rho dy farn dy hun ond gan ei chyfiawnhau gydag enghreifftiau i gefnogi dy ddadleuon
- strwythura dy waith i sicrhau ei fod yn gwneud synnwyr
- cofia dy fod yn gwerthuso鈥檙 cynhyrchiad, ac nid y ddrama
- ysgrifenna mewn ffordd gadarnhaol, gyda th么n broffesiynol