成人快手

Ysgrifennu a gwerthuso theatrDewisiadau cyfarwyddo

Os byddi di鈥檔 ysgrifennu adolygiad neu werthusiad dydy ystyried yr actio a鈥檙 perfformio yn unig ddim yn ddigon. Rhaid talu sylw i鈥檙 set, gwisgoedd, golau a sain, gan gyfiawnhau dy farn bob tro.

Part of DramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Dewisiadau cyfarwyddo

Y cyfarwyddwr sydd 芒 rheolaeth gyffredinol o鈥檙 cynhyrchiad. Paid ag anghofio cyfeirio at sut rwyt ti鈥檔 meddwl yr effeithiodd cyfraniad y cyfarwyddwr ar y cynhyrchiad. Meddylia am y canlynol:

  • A oedd gan y cyfarwyddwr gysyniad neu nod sefydlog ar gyfer y gwaith? Sut y cafodd hyn ei gyfleu?
  • Pa ddewisiadau penodol wnaeth y cyfarwyddwr yngl欧n ag arddull?
  • A oedd unrhyw newidiadau sylweddol neu doriadau yn y sgript ac os felly, beth oedd hyn yn ei gyflawni? A oedd hyn yn effeithio ar gyflymder neu strwythur y ddrama?
  • Beth oedd y daith emosiynol i鈥檙 gynulleidfa? A oedd tyndra neu gyferbyniad yn cael ei greu a sut?
  • Darllena nodiadau鈥檙 rhaglen a chwilia ar-lein am unrhyw wybodaeth gefndir am y cyfarwyddwr a allai dy helpu di. Efallai ei fod yn enwog am arddull neu ffurf arbennig.

Yn ei hadolygiad i National Theatre Wales o gynhyrchiad y Theatr Genedlaethol o Y Storm, mae Elin Williams yn canolbwyntio ar y dewisiadau cyfarwyddo:

Wrth gerdded i mewn roedd yr awyrgylch yn cael ei sefydlu鈥檔 syth, a gyda chyfarwyddwyr fel Elen Bowman, roeddwn i鈥檔 hyderus bod y perfformiad yn mynd i fod yn un a oedd yn mynd i godi syndod ar y gynulleidfa鈥 Roedd darnau o ddefnydd gwyn yn hongian o鈥檙 nenfwd er mwyn gweithio fel sgrin, fel bod delweddau a fideos effeithiol yn cael eu taflunio arni. Trwy gydol y perfformiad roedd y naws yn gyson, gyda goleuadau diddorol ac, ambell waith, iasol.
Elin Williams
Yr actor Richard Harrington, sy鈥檔 portreadu Mathias yn Y Gwyll
Image caption,
Yr actor Richard Harrington, sy鈥檔 portreadu Mathias yn Y Gwyll LLUN: Reuters

Mae鈥檙 blogiwr Daflog yn feirniadol o gyfres dditectif S4C Y Gwyll:

Un o nodweddion y cyfresi Sgandinafaidd yw cynildeb y ddeialog, actio a鈥檙 golygfeydd. Dwi ddim yn credu fod hyn yn nodwedd yn y bennod gynta o鈥檙 Gwyll. Roeddwn i鈥檔 teimlo fel bod yna ruthr i symud rhwng golygfeydd ac roedd gormod o doriadau camera o fewn y golygfeydd hynny. Doedd gen i ddim teimlad o densiwn wrth wylio yr awr gynta.
Blog Daflog, Hydref 30 2013

Dyma enghraifft o feirniad yn datgan barn negyddol gydag enghreifftiau鈥檔 esbonio pam mae鈥檔 credu bod gweledigaeth y cyfarwyddwr yn ddiffygiol. Mae鈥檙 adolygydd yn gwneud hyn drwy restru problemau o ran cyflymder a thyndra yn y rhaglen. Cofia fod rhaid i ti gefnogi unrhyw bwyntiau negyddol y byddi di鈥檔 eu gwneud gydag enghreifftiau cryf i gyfiawnhau dy farn.

Related links