成人快手

Ysgrifennu a gwerthuso theatrActio a pherfformiadau

Os byddi di鈥檔 ysgrifennu adolygiad neu werthusiad dydy ystyried yr actio a鈥檙 perfformio yn unig ddim yn ddigon. Rhaid talu sylw i鈥檙 set, gwisgoedd, golau a sain, gan gyfiawnhau dy farn bob tro.

Part of DramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Actio a pherfformiadau

Actorion yn perfformio yn Llwyth, Theatr Genedlaethol Cymru
Image caption,
Actorion yn perfformio yn Llwyth, Theatr Genedlaethol Cymru LLUN: Sherman Theatre

Mae鈥檔 hanfodol disgrifio perfformiadau鈥檙 actorion yn y cynhyrchiad gan nodi sut roedden nhw鈥檔 meddiannu鈥檙 rhan ac os oedd y perfformiadau鈥檔 dda neu鈥檔 wan. Cofia fod angen i ti roi rhesymau pendant ac nid cynnig barn ddi-sail yn unig.

Ceisia gynnwys yr elfennau canlynol:

  • Pwy wnaeth argraff arnat ti a pham?
  • Meddylia am y cymeriadu a sut y cafodd hyn ei gyflawni - llais, ystum, iaith y corff ayyb.
  • Bydd yn benodol am yr hyn roedd actor yn ei wneud ar adeg arbennig a sut cafodd effaith ar y gynulleidfa.
  • Dadansodda鈥檙 ffordd maen nhw鈥檔 symud o gwmpas y gofod a beth roedd hynny鈥檔 ei gyfleu ac ystyria鈥檙 defnydd o lonyddwch hefyd.
  • Gwerthusa鈥檙 dewisiadau lleisiol - seibiannau arwyddocaol, t么n y llais, newidiadau mewn traw neu uchder sy鈥檔 gweithio鈥檔 dda. Gwna sylwadau ar beth roedd hyn yn ei gyfleu i鈥檙 gynulleidfa.
  • Perthynas rhwng y cymeriadau ar y llwyfan: sut roedd hyn yn cael ei wneud ac oedden nhw鈥檔 datblygu neu鈥檔 newid? Canolbwyntia ar sut roedd hyn yn cael ei gyfleu yn yr actio, yn hytrach na stori鈥檙 ddrama.

Wrth adolygu cynhyrchiad Theatr y Sherman, Llwyth, i 成人快手 Cymru ar-lein, mae Gwyn Griffiths yn esbonio pam mae鈥檙 perfformiadau yn y ddrama mor effeithiol yn ei farn e:

Hyfryd gweld cast mor arbennig o gryf, pob un yn ardderchog. Haedda Simon Watts glod arbennig fel Aneurin, baich oedd yn galw am amrywiaeth dawn gyda'r cymeriad weithiau yn cymryd arno'i hun r么l y "llais" oedd yn tywys y gynulleidfa i sefyllfaoedd newydd.
Gwyn Griffiths

Yn ei hadolygiad o Pridd gan y Theatr Genedlaethol mae Lowri Haf Cooke yn rhoi barn gytbwys am gryfderau a gwendidau鈥檙 actor, Owen Arwyn:

Yn bresenoldeb bygythiol trwy gydol y darn, mae Pridd yn cadarnhau ei statws fel perfformiwr peryglus ar lwyfan. Ond weithiau, crefais dawelwch, a rhagor o funudau mud yng nghanol y monolog - er mwyn adlewyrchu ar y geiriau dirdynnol, ac i gael gweld actor ac nid adroddwr鈥
Lowri Haf Cooke

Related links