Cerddoriaeth a sain
Paid 芒 chanolbwyntio ar y gweledol yn unig. Os ydy鈥檙 gerddoriaeth neu鈥檙 sain mewn cynhyrchiad yn tynnu sylw (yn gadarnhaol neu鈥檔 negyddol), yna dylet ti s么n amdanyn nhw yn dy adolygiad. Ystyria:
- Sut y cafodd cerddoriaeth ei defnyddio a phryd?
- Beth oedd effaith y gerddoriaeth ar y gynulleidfa, ee a oedd yn creu naws?
- A oedd defnydd symbolaidd o gerddoriaeth i adlewyrchu cymeriad neu thema鈥檙 ddrama?
- A oedd unrhyw effeithiau sain, a beth oedden nhw鈥檔 ei ychwanegu i鈥檙 cynhyrchiad?
- A oedd y gerddoriaeth yn gweithio gyda gweddill y cynhyrchiad?
Wrth iddo adolygu cynhyrchiad Theatr Bara Caws, Croesi鈥檙 Rubicon, ar wefan 成人快手 Cymru ysgrifennodd y beirniad Alwyn Gruffudd am y dewisiadau cerddorol gan gynnig rheswm amdanyn nhw:
Byddai鈥檔 bosib dweud mwy am arddull y gerddoriaeth, ee oedd hi鈥檔 glasurol, yn gyfoes neu oedd yna effeithiau sain brawychus yn y cynhyrchiad? Yn ei hadolygiad o ddrama Cwmni Theatr 3D, Wyneb dros Dro, mae Lowri Haf Cooke yn nodi arddull y gerddoriaeth sy鈥檔 helpu鈥檙 darllenydd i ddysgu mwy am y cynhyrchiad:
Theatr Gerdd
Os byddi di鈥檔 ysgrifennu am Theatr Gerdd bydd angen i ti roi mwy o sylw i鈥檙 gerddoriaeth gan ei bod yn elfen mor hanfodol o鈥檙 cynhyrchiad. Os byddi di鈥檔 adolygu darn adnabyddus megis Nia Ben Aur, gallet ti fod 芒 rhai disgwyliadau yngl欧n 芒 sut y dylid perfformio a dehongli鈥檙 cynhyrchiad yn gerddorol. Dylet ti s么n am hyn yn dy adolygiad i ddangos dy wybodaeth i鈥檙 darllenydd.
Adolygodd Manon Elin, disgybl yn Ysgol Bro Myrddin, ddrama gerdd Theatr Genedlaethol Cymru, Deffro鈥檙 Gwanwyn, sef addasiad o鈥檙 cynhyrchiad enwog, Spring Awakening, ar gyfer cylchgrawn Tu Chwith. Canolbwyntiodd ar y perfformiadau cerddorol ond gallai adolygydd hefyd ddisgrifio arddull y gerddoriaeth i ddarllenwyr nad ydyn nhw鈥檔 gyfarwydd 芒鈥檙 sioe.