Gwella dealltwriaeth o adolygu drama
Gwranda ar y clip sain, ateba鈥檙 cwestiynau a chymhara dy atebion 芒鈥檙 atebion enghreifftiol.
Question
Pa wybodaeth allweddol sy鈥檔 cael ei chynnig am y cynhyrchiad yng nghyflwyniad Dewi Llwyd?
Mae鈥檙 cyflwyniad yn cynnwys y wybodaeth bod dwy ddrama yn y cynhyrchiad, enwau鈥檙 dramodwyr ynghyd 芒 manylion am y cwmni theatr ac ymhle y cafodd y cynhyrchiad ei lwyfannu.
Question
Pa mor fanwl mae鈥檙 adolygydd yn disgrifio them芒u鈥檙 cynhyrchiad?
Mae鈥檙 adolygydd yn gwybod llawer am y deunydd sy鈥檔 gyffredin rhwng y ddwy ddrama sef yr awdur Kate Roberts, ac mae鈥檔 cynnig manylion am gyd-destun y dram芒u. Mae鈥檔 disgrifio鈥檙 thema gyffredin sy鈥檔 rhedeg drwy鈥檙 ddau gynhyrchiad sef 鈥榥ewid鈥. Yn y ddrama gyntaf mae鈥檙 newid yn dilyn marwolaeth g诺r Kate Roberts sy鈥檔 arwain at gyfeiriad newydd yng ngwaith yr awdur. Yn yr ail ddrama, sy鈥檔 addasiad o gasgliad adnabyddus Kate Roberts o straeon byrion, Te yn y Grug, y newid ydy diwedd plentyndod.
Question
Ydy鈥檙 adolygydd yn cynnig manylion am y set a llwyfannu鈥檙 ddrama?
Mae Elinor Gwynn yn s么n am y set bren syml sy鈥檔 cynnig cefndir i鈥檙 golygfeydd dan do ac awyr agored. Mae hefyd yn disgrifio defnydd effeithiol o effeithiau sain, ee sain y wasg argraffu yn y cefndir.
Question
Sut mae Elinor Gwynn yn cyfiawnhau unrhyw feirniadaeth?
Mae Elinor Gwynn yn dweud nad oes unrhyw dystiolaeth gadarn fod Kate Roberts wedi cael perthynas agos gyda Daisy Wagner fel y dangosir yn Cyfaill. Mae鈥檔 s么n ei bod wedi darllen deunydd cefndir ar y pwnc, ee bywgraffiad o Kate Roberts, sy鈥檔 cefnogi ei sylw鈥檔 dda. Mae hefyd yn s么n am ymateb y gynulleidfa i鈥檙 dram芒u a gafodd eu perfformio gyda鈥檌 gilydd. Roedd yr ail yn fwy doniol ac roedd y deunydd gwreiddiol yn fwy adnabyddus a oedd yn golygu ei fod yn fwy difyr i鈥檙 gynulleidfa.
Question
Pa elfen bwysig o Cyfaill sydd ddim yn cael sylw tan yn ddiweddarach yn yr adolygiad?
Does dim manylion am y cast tan ddiwedd yr adolygiad. Yn ddelfrydol dylai鈥檙 adolygydd fod wedi s么n am y cast yn ei sylwadau agoriadol. Ond mae鈥檙 adolygydd yn s么n am un aelod o鈥檙 cast yn benodol am ei pherfformiad rhagorol fel Begw yn Te yn y Grug.
Question
Wyt ti鈥檔 credu bod yr adolygiad hwn yn un da?
Roedd yr adolygiad hwn yn dda. Roedd yn cynnwys barn gytbwys am gryfderau a gwendidau鈥檙 dram芒u gyda鈥檙 adolygydd yn cynnwys digon o enghreifftiau o鈥檙 cynyrchiadau. Hefyd roedd ganddi wybodaeth dda am y deunydd gwreiddiol a oedd yn ysbrydoliaeth i鈥檙 ddrama gan gynnig dehongliad manwl yn hytrach nag un arwynebol yn unig.